Haen uwch yn unig
![Diagram trosglwyddo egni. Mae'r ysydd cynradd yn colli 1350 kilojoule o egni. Mae 150 kilojoule yn pasio i'r ysydd eilaidd.]()
Mae ysydd cynradd yn colli 1,350 kJ ar ffurf gwres, drwy symud ac mewn carthion. Mae 150 kJ yn cael ei drosglwyddo i'r lefel droffig nesaf. Defnyddia'r hafaliad hwn i gyfrifo effeithlonrwydd canrannol trosglwyddo egni rhwng yr ysydd cynradd a'r ysydd eilaidd.
\[\text{effeithlonrwydd} = \frac{\text{egni sy'n cael ei drosglwyddo i'r lefel nesaf}}{\text{cyfanswm yr egni i mewn}} \times 100\]