Beth yw ymgyrch?
Camau sy’n cael eu cymryd er mwyn cyflawni amcanion penodol
Ethol rhywun i wneud rhywbeth
Defnyddio amryw o wahanol ddulliau i gyfathrebu gyda phobl eraill
Beth yw un o’r ffactorau pwysicaf i’w ystyried wrth ddefnyddio posteri i godi ymwybyddiaeth?
Y lliwiau sy’n cael eu defnyddio yn y poster
Lleoliad y poster
Maint y poster
Beth sy’n helpu i wneud cyflwyniad yn effeithiol?
Cyswllt llygad da
Cynifer o ddelweddau ag sy’n bosibl
Llawer o fanylion a chynnwys
Wrth gynllunio taflen, beth yw’r gair allweddol sydd ar goll yn y rhestr hon o eiriau y dylai rhywun eu hystyried?
sylw, diddordeb, _____, gweithredu
Neges
Pwysigrwydd
Dyhead
Beth yw meddwl awyr las?
Meddwl am syniadau mewn ffordd sy’n ystyriol o’r amgylchedd
Meddwl am gynifer o syniadau newydd ag sy’n bosibl
Meddwl am syniadau call
Beth yw ystyr cysylltiad mewn map meddwl?
Syniadau sy’n gysylltiedig â’i gilydd
Cryfder syniad
Syniadau sydd yr un fath yn union â’i gilydd
Beth yw pwrpas yr het goch yn nhechneg y chwe het feddwl?
Annog ffordd o feddwl sy’n gysylltiedig â phroblemau a risgiau
Annog ffordd o feddwl sy’n gysylltiedig â theimladau
Annog ffordd o feddwl sy’n seiliedig ar ffeithiau
Beth yw rôl yr het felen yn nhechneg y chwe het feddwl?
Arwain y drafodaeth
Annog rhywun i feddwl am syniadau newydd
Annog ffordd o feddwl sy’n seiliedig ar gyfleoedd a manteision
Beth yw matrics penderfynu?
Tabl sy’n helpu rhywun i werthuso a blaenoriaethu gwahanol opsiynau neu syniadau
Tabl sy’n trefnu’r broses o wneud penderfyniadau
Cynllun gweithredu sy’n cynnwys gwahanol benderfyniadau
Beth yw ystyr trefn restrol?
Rhoi eitemau mewn trefn benodol
Eitemau sydd wedi eu trefnu ar hap
Dim ond eitemau sydd angen eu trefnu o’r rhai pwysicaf i’r rhai lleiaf pwysig