Beth ydy ysgogiad?
Ysgogiad ydy unrhyw beth sy’n fan cychwyn ar gyfer cynhyrchu syniadau ar gyfer creu drama, megis cerdd, darn o gerddoriaeth neu wrthrych
Ysgogiad ydy’r weithred o greu darn gwreiddiol
Ysgogiad ydy thema neu syniad cylchol sy’n cael ei drafod ar y llwyfan
Beth ydy ystyr naratif?
Math o ddrama sy’n defnyddio llefarydd ydy naratif
Drama’n seiliedig ar stori wir ydy naratif
Naratif ydy llinyn stori sy’n rhedeg drwy’r gwaith
Pam mae ymchwil yn bwysig wrth ddyfeisio drama?
Mae ymchwil yn allweddol er mwyn i ti gael gwybodaeth fanwl ar gyfer y nodiadau rhaglen
Mae ymchwil yn hanfodol er mwyn i ti weld a oes unrhyw un wedi defnyddio dy syniad yn barod
Mae ymchwil yn bwysig er mwyn i ti gael dealltwriaeth dda o fyd y ddrama ac unrhyw themâu neu bynciau sydd ynddi
Beth ydy’r bedwaredd wal?
Y bedwaredd wal ydy cefn y llwyfan
Y wal anweledig rhwng yr actorion a’r gynulleidfa
Drama lle mae’r bedwaredd olygfa yn anodd ei pherfformio
Pa fath o lwyfan sydd i’w weld yma?
Llwyfan traddodiadol
Llwyfan bwa prosceniwm
Llwyfan tramwy
Pa fath o lwyfan ydy hwn?
Llwyfan gwth
Llwyfan tair ochr
Llwyfan agos atoch
Beth ydy anawsterau llwyfannu gwaith mewn cylch?
Dydy’r gynulleidfa ddim yn gallu gweld y perfformiad llawn yn glir ar y llwyfan
Gallai roi pendro i’r gynulleidfa
Does dim mynedfeydd nag allanfeydd felly rhaid i’r cast aros ar y llwyfan drwy gydol y ddrama
Beth ydy strwythur llinellol?
Dydy’r digwyddiadau ddim yn cael eu llwyfannu mewn trefn ac mae’r ddrama’n symud o gwmpas mewn amser
Caiff y digwyddiadau eu dangos mewn trefn gronolegol
Caiff y stori ei chyfleu drwy’r llinellau mae’r actor yn eu siarad, ac nid drwy waith corfforol
Beth ydy’r gair am symud o un olygfa i’r nesaf?
Pontio
Newid golygfa
Cyswllt
Beth oedd syniadau Jerzy Grotowski am lwyfannu theatr?
Y dylai ddefnyddio cymaint o elfennau technegol â phosibl
Y dylai fod yn feim a gwaith corfforol yn unig
Bod dim angen unrhyw beth ar actor ar y llwyfan heblaw amdano ef ei hun