Arian tramor a chyfraddau cyfnewid test questions

1

Newidiodd Adam £400 i baht Thai pan oedd y gyfradd gyfnewid yn £1 = 53 baht.

Sawl baht gafodd e?

2

Ar ei ffordd yn ôl, mae gan Adam 560 baht Thai ar ôl. Gan ddefnyddio’r gyfradd gyfnewid £1 = 53 baht, faint o bunnoedd fydd o’n eu cael yn ôl am hyn?

3

Mae Amy yn mynd i’r Swistir gyda £200. Mae hi’n ei gyfnewid am ffranciau y Swistir ar gyfradd o 1 ffranc y Swistir = £0.68. Faint o ffranciau y Swistir mae hi’n eu cael?

4

Daw Amy yn ôl o’r Swistir gydag 85 ffranc y Swistir.

Mae hi’n ei newid yn ôl i bunnoedd ar gyfradd gyfnewid o 1 ffranc y Swistir = £0.68. Faint o bunnoedd Prydeinig mae hi’n eu cael?

5

Mae Meleri yn cyfnewid £600 i ewros ar gyfradd o £1 = €1.40 ar gyfer ei gwyliau i Malta.

Ar ei gwyliau yn Malta mae’n gwario €670. Ar ôl dod adref, mae hi’n newid yr hyn sydd ganddi’n weddill yn ôl i bunnoedd ar gyfradd o £1 = €1.55.

Faint o bunnoedd sydd ganddi’n weddill ar ddiwedd ei thaith?

6

Mae cwestiynau 6 - 9 ar gyfer haenau canolradd ac uwch

Mae Chad yn mynd i America am bythefnos ac mae arno angen o leiaf £800 mewn doleri UDA.

Pan mae’n cyrraedd y biwro cyfnewid, mae’n canfod mai’r darn papur lleiaf sydd ganddyn nhw yw $50. Y gyfradd gyfnewid yw £1 = $1.55.

Faint o ddoleri fydd arno eu hangen a faint fydd hyn yn ei gostio iddo?

7

Mae Amina wedi cynilo £450 ar gyfer ei gwyliau i Japan.

Y gyfradd gyfnewid yw £1 = 122.95 yen a’r darn papur lleiaf sydd gan y banc yw 500 yen.

Cyfrifa’r nifer fwyaf o yen y gall Amina eu cyfnewid hyd at £450 a faint y bydd hyn yn ei gostio iddi.

8

Mae Tia yn mynd i’r biwro cyfnewid arian ac yn newid £150 am 386 o ddoleri Awstralia.

Faint o ddoleri Awstralia mae hi’n eu cael am bob £1?

9

Ar gyfer fy nhrip i India, mae gen i £300 i’w gyfnewid.

Dw i’n ymweld â dau fiwro teithio sy’n cynnig y cyfraddau canlynol:

Cyfnewid Cyflym: £1 = 95.40 rupee a chomisiwn 0%

Arian Parod: £1 = 96.8 rupee a ffi trafod o £2.75

Pa gwmni fyddai’n rhoi’r nifer fwyaf o rupees i mi?

10

Mae cwestiwn 10 ar gyfer haen uchaf

Mae Stephen angen 200 lira Twrci ar gyfer ei wyliau i Marmaris.

Mae LiraFa'ma yn codi ffi trafod o £2.15 ac yn hysbysebu cyfradd gyfnewid o £1 = 4.10 lira.

Mae TrethiTwrci yn ychwanegu 3.5% at nifer y punnoedd Prydeinig rwyt ti’n eu cyfnewid gyda chyfradd o £1 = 4.05 lira.

Faint fydd y ddau gwmni ei eisiau gan Stephen am 200 lira?