Pa un o'r llygryddion hyn sy'n gallu achosi biogynyddiad yn yr amgylchedd?
Gwrteithiau
Plaleiddiaid
Carthion
Pa organebau mewn cadwyn fwyd sydd fwyaf tebygol o ddioddef effeithiau difrifol biogynyddiad?
Cynhyrchwyr
Ysyddion cynradd
Ysyddion eilaidd
Sut mae'r plaleiddiad DDT yn achosi gostyngiad ym mhoblogaeth adar ysglyfaethus?
Mae'n rhoi canser iddynt
Mae'n gwanhau plisg eu hwyau
Mae'n achosi heintiau
Beth allai gwyddonwyr ei ganfod os oes carthion crai wedi'u pwmpio i afon neu lyn?
Llawer o ocsigen
Dim llawer o garbon deuocsid
Dim llawer o ocsigen
Beth yw enw’r broses lle caiff gwrteithiau nitrad eu golchi o gaeau i afonydd a llynnoedd?
Trwytholchi
Ffurfio blŵm
Dadelfennu
Beth yw enw’r math o organeb mae gwyddonwyr yn chwilio amdani i ganfod lefelau llygredd?
Cynhyrchydd
Rhywogaeth ddangosol
Rhywogaeth ddiflanedig
Beth yw effaith llygredd dŵr ar pH dŵr?
Mae'n cynyddu'r pH yn uwch na 7
Mae'n lleihau'r pH yn is na 7
Mae'n achosi pH niwtral 7
Pa un o'r prosesau hyn sy'n tynnu carbon deuocsid o'r amgylchedd?
Ffotosynthesis
Hylosgi
Resbiradaeth
Pa gynnyrch sy'n ffurfio wrth i ensymau wreas bacteriol ddadelfennu wrea?
Amonia
Nitrogen
Nitradau
Ym mha blanhigion mae gwreiddgnepynnau sy'n cynnwys bacteria sefydlogi nitrogen?
Codlysol
Collddail
Blodeuol