Beth yw'r enw am isafswm yr egni sydd ei angen ar ronynnau er mwyn iddyn nhw adweithio wrth wrthdaro?
Egni actifadu
Egni catalytig
Egni trothwy
Pa un o’r canlynol fyddai'n cyflymu adwaith?
Defnyddio lympiau yn lle powdr
Cynyddu crynodiad asid
Gostwng y tymheredd
Pa un o’r canlynol fydd yn cynyddu amlder gwrthdrawiadau llwyddiannus?
Cynyddu'r tymheredd
Lleihau'r gwasgedd
Lleihau'r crynodiad
Pa un o’r gosodiadau canlynol am gatalyddion sy’n anghywir?
Maen nhw'n cyflymu adweithiau
Maen nhw'n darparu llwybr adwaith gwahanol ag egni actifadu is
Maen nhw'n cael eu newid yn gemegol erbyn diwedd yr adwaith
Pa un o’r canlynol fydd yn cynyddu cyfran y gwrthdrawiadau llwyddiannus?
Cynyddu'r gwasgedd
Cynyddu'r crynodiad
Pa un o’r canlynol fyddai'n rhoi cromlin fwy serth ar graff o gyfaint nwy yn erbyn amser?
Tymheredd isel
Crynodiad isel
Defnyddio catalydd
Pe bai adwaith A yn cael ei ailadrodd, gan ddefnyddio'r un symiau o adweithyddion ond ar dymheredd is, sut byddet ti'n disgrifio siâp y graff?
Bydd y graff yn fwy serth, ac yn gorffen â'r un cyfaint wedi'i gynhyrchu (60 cm3) mewn amser cyflymach
Bydd y graff yn llai serth ac yn gorffen ar 30 cm3
Bydd y graff yn llai serth, ac yn gorffen â'r un cyfaint wedi'i gynhyrchu (60 cm3), ond ar amser diweddarach
Gan ddefnyddio damcaniaeth gronynnau, pa un o'r canlynol sy'n esbonio'n gywir pam mae tymheredd uwch yn cynyddu cyfradd adwaith?
Wrth i'r tymheredd gynyddu, mae'r gronynnau'n ennill mwy o egni sy'n golygu bod mwy o siawns o wrthdrawiad llwyddiannus
Wrth i'r tymheredd gynyddu, mae'r gronynnau'n ennill mwy o egni ac mae mwy o wrthdrawiadau'n digwydd
Wrth i'r tymheredd gynyddu, mae'r gronynnau'n colli llai o egni sy'n golygu bod llai o wrthdrawiadau llwyddiannus yn digwydd
Ar ôl faint o amser mae adwaith A yn gorffen?
20 eiliad
30 eiliad
50 eiliad
Mae 2.5 g o gatalydd yn cael ei ychwanegu i gyflymu adwaith cemegol. Faint o gatalydd oedd dros ben ar ddiwedd yr adwaith?
Llai na 2.5 g
Mwy na 2.5 g
2.5 g yn union