Pam mae gwyliau’n bwysig i gredinwyr?
Maen nhw’n cofio digwyddiadau a dysgeidiaethau pwysig eu crefydd
Maen nhw’n gwneud i bobl anghofio am eu crefydd
Mae pobl yn gallu gwario llawer o arian a mwynhau eu hunain
Beth mae Iddewon yn ei gofio yn ystod Yom Hashoah?
Duw yn creu’r byd
Moses yn rhyddhau’r Israeliaid o’u caethiwed yn yr Aifft
Trychineb yr Holocost
Beth mae Rosh Hashanah yn ei ddathlu?
Y Flwyddyn Newydd Iddewig
Beth mae Iddewon yn credu bod Duw yn ei wneud yn ystod Rosh Hashanah?
Barnu pobl ar sail eu gweithredoedd drwy’r flwyddyn ddiwethaf
Chwythu’r shofar
Creu’r byd
Beth yw ystyr 'Yom Kippur'?
Dydd y Farn
Y Flwyddyn Newydd
Dydd y Cymod
Beth mae Iddewon yn ei wneud ar Yom Kippur?
Maen nhw’n myfyrio ar y pethau maen nhw wedi eu gwneud yn ystod y flwyddyn ddiwethaf
Maen nhw’n dathlu dechrau’r Flwyddyn Newydd
Maen nhw’n bwyta pryd arbennig o fwyd i gofio Iddewon eraill yn Israel
Pam mae Iddewon yn bwyta bara croyw (matzah) yn ystod y Pasg Iddewig?
Fel symbol o dlodi’r Israeliaid pan wnaethon nhw adael yr Aifft
I gofio nad oedd gan yr Iddewon amser i aros i’r bara godi cyn iddyn nhw adael yr Aifft
I’w hatgoffa o bwysigrwydd bwyta’n iach
Pa ddigwyddiad sy’n cael ei gofio yn ystod y Pesach?
Duw yn galw Abraham
Duw yn rhoi’r Gyfraith i Moses
Yr Israeliaid yn gadael yr Aifft
Ar gyfer pwy mae’r cwpan ychwanegol sy’n cael ei roi ar y bwrdd yn ystod pryd bwyd y Pasg Iddewig?
Y Massiach
Y proffwyd Elias
Y Brenin Dafydd
Beth yw enw’r pryd bwyd teuluol arbennig sy’n cael ei fwyta yn ystod y Pesach?
Shabbat
Seder
Challah