Beth yw cynhyrchion yr adwaith rhwng sinc ac asid hydroclorig?
Sinc clorid a hydrogen
Sinc hydroclorid a dŵr
Sinc clorid a dŵr
Pa fath o halwyn sy'n cael ei wneud o asid sylffwrig?
Sylffad
Sylffid
Sylffit
Wrth gynhyrchu halwyn hydawdd mewn adwaith rhwng asid ac alcali, sut galli di baratoi grisialau solid sych allan o'r hydoddiant?
Hidlo
Niwtralu
Anweddu/grisialu
Sut rwyt ti'n gwahanu gormodedd o adweithydd anhydawdd o hydoddiant?
Gwaddodi
Anweddu
Wrth baratoi halwyn, pam mae'r hydoddiant dirlawn o'r halwyn yn cael ei adael mewn man cynnes, sych am rai dyddiau yn hytrach na'i wresogi dros faddon dŵr?
I gyflymu anweddiad y dŵr
Fel bod grisialau mawr yn gallu ffurfio
I gael gwared ar amhureddau
Wrth gynnal titradiad asid-alcali, pa ddarn o gyfarpar rydyn ni'n ei ddefnyddio i roi cyfaint penodol o'r hydoddiant cyntaf yn y fflasg gonigol?
Pibed
Bwred
Bicer
Pa un o'r sylweddau hyn sy'n fas?
Copr(II) ocsid
Magnesiwm clorid
Sylffwr deuocsid
Sut byddet ti'n cwblhau'r hafaliad geiriau canlynol?
sinc carbonad + asid nitrig →...
sinc nitrad + hydrogen
sinc nitrad + dŵr
sinc nitrad + dŵr + carbon deuocsid
Pam mae hi'n bwysig ychwanegu copr(II) ocsid at asid sylffwrig nes bod gormodedd ohono wrth wneud copr(II) sylffad?
Os nad oes digon yn cael ei ychwanegu, mae'n cynhyrchu copr(II) sylffit
Mae ychwanegu gormodedd copr(II) ocsid yn gwneud yr adwaith yn gyflymach
Mae ychwanegu gormodedd copr(II) ocsid yn gwneud yn siŵr bod yr asid i gyd wedi adweithio
Beth yw enw'r bas X?
Copr
Copr(II) hydrocsid