Cyfraddau adweithiau test questions

1

Beth yw'r enw am isafswm yr egni sydd ei angen ar ronynnau er mwyn iddyn nhw adweithio wrth wrthdaro?

2

Beth yw enw'r model rydyn ni'n ei ddefnyddio i esbonio sut mae gwahanol ffactorau'n effeithio ar gyfradd adwaith?

3

Pa ddarn o gyfarpar gellid ei ddefnyddio i fesur cyfaint y nwy sy'n cael ei gynhyrchu mewn adwaith?

4

Pa un o’r canlynol fyddai'n cyflymu adwaith?

5

Pan mae asid gwanedig yn cael ei ychwanegu at hydoddiant sodiwm thiosylffad, mae gwaddod o sylffwr yn ffurfio'n araf. Pa un o'r mesuriadau canlynol gellid ei wneud i gymharu cyfraddau'r adwaith hwn gan ddefnyddio gwahanol grynodiadau o asid?

6

Pa fath o sylwedd sy'n gorfod cael ei gynhyrchu gan adwaith er mwyn i ni allu defnyddio newid màs yr adwaith i fesur cyfradd yr adwaith?

7

Yn ystod adwaith rhwng calsiwm carbonad ac asid hydroclorig, mae màs yr adwaith yn lleihau 0.5 g dros 20 munud. Beth yw cyfradd gyfartalog yr adwaith?

8

Gallwn ni ddefnyddio synhwyrydd golau a chofnodydd data i fonitro'r adwaith rhwng asid hydroclorig gwanedig a sodiwm thiosylffad. Rydyn ni'n ystyried bod yr adwaith wedi gorffen pan mae lefel y golau'n gostwng i lefel gyson. Sut rwyt ti'n cyfrifo cyfradd yr adwaith gan ddefnyddio'r wybodaeth hon?

9

Pam mae thermomedr digidol yn fwy addas i fesur tymheredd na thermomedr analog?

10

Mae chwistrelli nwy yn gyffredinol yn well i fesur cyfaint nwy sy'n cael ei gynhyrchu na silindr mesur/jar nwy. Pa un o’r gosodiadau canlynol sy’n adlewyrchu hyn orau?