Beth yw pererindod?
Taith â phwysigrwydd ysbrydol
Defod newid byd
Lle sy'n nodi genedigaeth sefydlydd crefydd
Pam mae Bethlehem yn bwysig i Gristnogion?
Dyma lle bu farw Iesu
Dyma lle daeth yr Ysbryd Glân at y disgyblion
Dyma lle ganwyd Iesu
Beth mae llawer o bererinion Cristnogol yn ei wneud ym Methlehem?
Ymweld â'r bedd lle cafodd Iesu ei gladdu
Ymweld ag Eglwys y Geni
Cerdded ar lan y Môr Marw
Beth ddigwyddodd yn Nasareth?
Cafodd Mair wybod gan yr angel Gabriel mai hi fyddai mam Iesu
Aeth Iesu i fyny i'r Nefoedd
Daeth yr Ysbryd Glân at y disgyblion
Pam mae Cristnogion yn hoff o ymweld â mannau lle mae digwyddiadau crefyddol arbennig wedi digwydd?
I gael tynnu lluniau da
I wario llawer o arian
I'w helpu nhw i ddeall eu ffydd yn well a theimlo'n agosach at Dduw
Beth ddigwyddodd yng Ngardd Gethsemane?
Gweddïodd Iesu cyn cael ei arestio
Cafodd Iesu ei groeshoelio
Pam mae Cristnogion yn cerdded ar hyd y Via Dolorosa yn Jerusalem?
I ymweld â'r man lle cafodd Pedr ei ladd
I gofio'r llwybr ddilynodd Iesu ar y ffordd i gael ei groeshoelio
I gofio genedigaeth Iesu
Pa fannau sy'n rhan o’r Tir Sanctaidd?
Llundain, Rhufain, Bethlehem
Bethlehem, Nasareth, Jerusalem
Jerusalem, Rhufain, Nasareth
Yn ôl y chwedl, faint o seintiau sydd wedi'u claddu ar Ynys Enlli?
20,000
12,000
200
Sawl ymweliad â Thyddewi sy'n gywerth ag un ymweliad â Rhufain i Gristnogion?
Un
Dau
Tri