Ble yn y tabl cyfnodol mae'r metelau alcalïaidd?
Ar y chwith
Yn y canol
Ar y dde
Pa un o’r canlynol sy'n un o briodweddau'r metelau alcalïaidd?
Maen nhw'n feddal
Mae ganddyn nhw ymdoddbwyntiau uchel
Maen nhw'n ddargludyddion trydan gwael
Beth sy'n digwydd i ymdoddbwynt yr elfennau wrth fynd i lawr Grŵp 1?
Mae’n aros tua'r un fath
Mae’n cynyddu
Mae’n lleihau
Pan mae sodiwm yn adweithio â dŵr, pa un o’r canlynol sy’n ddisgrifiad cywir?
Mae'n suddo ac yn mynd ar dân
Mae'n hisian ac yn toddi'n bêl
Mae'n gwneud solid gwyn
Beth yw'r ddau gynnyrch pan mae potasiwm yn adweithio â dŵr?
Potasiwm hydrid ac ocsigen
Potasiwm hydrocsid a hydrogen
Potasiwm ocsid a hydrocsyl
Beth sy'n digwydd i adweithedd yr elfennau wrth fynd i lawr Grŵp 1?
Pam mae sodiwm yn fwy adweithiol na lithiwm? [Haen uwch yn unig]
Mae'n colli ei electron allanol yn haws
Mae ganddo fwy o electronau i'w colli
Mae ganddo fwy o brotonau yn y niwclews
Pa un yw'r hafaliad geiriau cywir ar gyfer adwaith lithiwm â dŵr?
lithiwm + dŵr → alcali + hydrogen
lithiwm + dŵr → sodiwm hydrocsid + hydrogen
lithiwm + dŵr → hydrogen + lithiwm hydrocsid
Pa esboniad sy'n gywir i esbonio'r duedd yn adweithedd elfennau Grŵp 1? [Haen uwch yn unig]
Mae nifer y plisg yn cynyddu, gan leihau'r grymoedd atynnu - mae hi'n haws colli'r electron, ac mae'r adweithedd yn cynyddu
Mae nifer y plisg yn cynyddu, gan leihau'r grymoedd atynnu - mae hi'n anoddach ennill yr electron, ac mae'r adweithedd yn lleihau
Mae nifer y plisg yn cynyddu, gan leihau'r grymoedd atynnu - mae hi'n anoddach colli'r electron, ac mae'r adweithedd yn cynyddu
Pa un yw'r hafaliad cytbwys cywir ar gyfer adwaith cesiwm, Cs, â dŵr?
2Cs(s) + 2H2O(h) → 2CsOH(dyfr) + H2(n)
Cs(s) + H2O(h) → CsOH(dyfr) + H2(n)
2Cs(s) + 2H2O(h) → 2CsH(dyfr) + O2(n)