Halogenau grŵp 7 test questions

1

Ble yn y tabl cyfnodol mae'r halogenau?

2

Sut mae bromin yn edrych?

3

Beth sy'n digwydd i'r ymdoddbwyntiau a'r berwbwyntiau wrth fynd i lawr Grŵp 7?

4

Beth yw cyflwr ffisegol ïodin ar dymheredd ystafell?

5

Beth yw fformiwla nwy clorin?

6

Beth yw'r duedd o ran adweithedd elfennau Grŵp 7?

7

Pa halogen fydd yn dadleoli bromin o hydoddiant potasiwm bromid?

8

Mae'r hafaliad ïonig isod yn dangos sut mae clorin yn gallu dadleoli bromin o hydoddiannau sodiwm bromid:

2Cl2 + 2Na+Br- → Br2 + 2Na+Cl-

Beth sy'n cael ei ocsidio yn yr adwaith hwn?

9

Mewn adwaith dadleoli, mae ïonau ïodid yn colli electronau i ffurfio ïodin. Beth yw enw’r broses hon? [Haen uwch yn unig]

10

Mae metel Grŵp 1 yn cael ei danio a'i roi mewn cynhwysydd sy'n cynnwys nwy gwyrdd-felyn gwenwynig. Mae'r adwaith yn cynhyrchu fflam felyn-oren. Sut byddet ti'n nodi'r hafaliad cywir ar gyfer yr adwaith hwn?