Pa arddulliau wnaeth ddylanwadu ar gyfansoddwyr cerddoriaeth roc yn yr 1960au?
Roedd cerddoriaeth ffilm wedi dylanwadu ar gyfansoddwyr cerddoriaeth roc
Roedd rhythm a blues, cerddoriaeth werin a jazz wedi dylanwadu ar gyfansoddwyr cerddoriaeth roc
Roedd cerddoriaeth glasurol wedi dylanwadu ar gyfansoddwyr cerddoriaeth roc
Beth yw arwydd amser y rhan fwyaf o gerddoriaeth roc?
4/4
3/4
6/8
Beth yw adeiledd y rhan fwyaf o ganeuon roc?
Mae’r rhan fwyaf o ganeuon roc yn gyfansoddiadau di-dor
Mae’r rhan fwyaf o ganeuon roc ar ffurf deiran
Mae gan y rhan fwyaf o ganeuon roc adeiledd pennill a chytgan
Pa offerynnau/lleisiau sydd gan fandiau roc gan amlaf?
Gitâr drydan, gitâr fas, drymiau ac o leiaf un llais
Allweddellau a nifer o leisiau cefndir
Gitâr acwstig, piano a thrwmped
Beth yw enw’r syniad cerddorol sydd i’w glywed yn y dyfyniad hwn?
Cytgan
Ríff
Dilyniant
Pa ddilyniad cordiau mae modd ei glywed yn y rhan hon o’r gân?
Em-G-Em
Em-Bm
Em-C-Bm
Sut mae’r gyn-gytgan yn creu cyferbyniad â’r gytgan sy’n dilyn?
Mae’n arafach
Mae mewn cywair mwyaf
Mae’r traw yn uwch
Sut mae cerddorion yn creu cordiau pŵer, fel y rhai sydd i’w clywed yn y dyfyniad hwn?
Drwy hepgor trydydd y cord
Drwy chwarae gyda lefel sain uwch
Drwy ychwanegu offerynnau
Beth yw cywair y gân Anifail?
E fwyaf
E leiaf
C leiaf
Beth yw enw effaith sy’n cael ei defnyddio’n aml gan gitarwyr bandiau roc i greu tôn niwlog neu gras?
Mwyhau
Plygu traw
Ystumiant