Beth ydy gwerth y ffigur \({4}\) yn y rhif \({54,062}\)?
\[{4,000}\]
\[{400}\]
\[{40,000}\]
Beth ydy'r ffordd draddodiadol o ddweud y rhif \({12}\)?
Dau ddeg
Deuddeg
Un deg dau
Sut mae dweud y rhif \({34,023}\)?
Tri deg pedwar mil a dauddeg tri
Tair mil, pedwar cant dau ddeg tri
Tri deg pedwar mil, cant a dau ddeg tri
Edrycha ar gost tri char. Car \({A}\): \(\pounds{18,500}\), car \({B}\): \(\pounds{1,890}\), a char \({C}\): \(\pounds{15,600}\). Rho'r ceir mewn trefn o'r drytaf i'r rhataf.
Car \({A}\), Car \({B}\), Car \({C}\)
Car \({A}\), Car \({C}\), Car \({B}\)
Car \({B}\), Car \({A}\), Car \({C}\)
Pris pecynnau blawd ydy \({47}~{c}\) yr un. Mae pobydd yn prynu deg pecyn o'r blawd. Beth ydy cyfanswm cost y blawd?
\[\pounds{47}\]
\[\pounds{4.70}\]
\[\pounds{470}\]
Mae trwch llyfr mathemateg yn \({1.5}~{cm}\). Beth fyddai trwch \({100}\) o'r llyfrau hyn mewn pentwr?
\[{1,500}~{cm}\]
\[{15}~{cm}\]
\[{150}~{cm}\]
Cyfanswm yr arian ar ôl i \({10}\) o blant dalu am drip ysgol ydy \(\pounds{46}\). Beth ydy pris y trip i un plentyn?
\[\pounds{46}\]
\[\pounds{4.60}\]
\[\pounds{0.46}\]
Trwch \({100}\) darn o bren ydy \({250}~{cm}\). Beth ydy trwch pob darn unigol?
\[{0.25}~{cm}\]
\[{25}~{cm}\]
\[{2.5}~{cm}\]
Beth ydy \({230,000}\) yn y ffurf indecs safonol?
\[{2.3}\times{10}^{6}\]
\[{2.3}\times{10}^{7}\]
\[{2.3}\times{10}^{5}\]
Beth ydy \({0.004}\) yn y ffurf indecs safonol?
\[{4}\times{10}^{-3}\]
\[{4}\times{10}^{3}\]
\[{40}\times{10}^{-2}\]