Sawl gwaith mae Iesu yn dweud dylai rhywun faddau?
Saith gwaith
Saith deg gwaith
Saith deg saith gwaith
Pa un o’r llinellau canlynol o Weddi'r Arglwydd sy'n ymateb i faddeuant Duw?
Maddeuwn ninnau i'n dyledwyr
Deled dy deyrnas
Dyro i ni heddiw ein bara beunyddiol
Beth yw rhyfel?
Chwilio am ddatrysiad heddychlon i broblem
Dau unigolyn sy'n anghytuno ac yn ymladd
Gwrthdaro wedi'i drefnu rhwng gwladwriaethau
Pa un o’r rhain sy'n rheswm cyffredin dros ryfel?
Amddiffyn eich hun rhag ymosodwr
Cytuno â ffrindiau ynglŷn â'r peth iawn i'w wneud
Gweddïo dros eich gelynion
Sut mae'r syniad bod bywyd yn sanctaidd yn effeithio ar ddysgeidiaethau Cristnogol am ryfel?
Mae bywyd yn wan ac mae rhyfel yn siŵr o effeithio arno
Mae bywyd yn gysegredig ac ni ddylai gael ei ddinistrio
Mae bywyd yn fyr felly does dim ots beth sy'n digwydd iddo
Pa un o’r Deg Gorchymyn sy'n gallu cael ei ddefnyddio yn erbyn rhyfel?
Na odineba
Na ladd
Na ladrata
Pa un o’r rhain sydd DDIM yn un o amodau rhyfel cyfiawn?
Rhaid i awdurdod priodol ei ddatgan
Rhaid iddo fod y dewis olaf
Rhaid iddo fod er mwyn cymryd tir ac adnoddau
Beth mae heddychwyr yn ei gredu am ryfel?
Weithiau mae'n gyfreithlon ac yn iawn, ond ddim yn ddymunol
Mae rhyfel bob amser yn beth da
Dydy rhyfel byth yn dderbyniol
Beth yw gwrthwynebwr cydwybodol?
Rhywun sy’n mynnu cymryd rhan mewn gweithgareddau milwrol oherwydd credoau personol
Rhywun sy’n gwrthod cymryd rhan mewn gweithgareddau milwrol oherwydd credoau personol
Rhesymau dros gyfiawnhau rhyfel
Pryd byddai'r rhan fwyaf o Gristnogion yn cytuno bod rhyfel yn angenrheidiol?
Ar ôl bodloni holl amodau Rhyfel Cyfiawn
Pan mae llywodraeth gwlad yn datgan rhyfel
Pan mae rhywun yn bygwth Cristnogaeth