Beth ydy blwch model o’r set?
Blwch rheoli bach sy’n caniatáu i ti weithio’r golau o’r llwyfan
Model bach o’r set, wedi ei adeiladu ar y raddfa gywir
Blwch wrth ochr y llwyfan sy’n cynnwys yr holl bropiau y bydd actorion yn eu defnyddio yn y perfformiad
Beth mae dylunydd set yn ei wneud?
Dylunio’r set a’r olygfa
Cynllunio’r gerddoriaeth sydd i’w defnyddio
Dylunio goleuadau’r cynhyrchiad
Pa un o’r rhestrau hyn o dri pheth mae goleuadau yn eu gwneud sy’n anghywir?
Creu ymdeimlad ac awyrgylch, cyfeirio sylw y gynulleidfa a diffinio gwahanol leoliadau ar y llwyfan
Creu ymdeimlad ac awyrgylch, amlygu digwyddiadau pwysig ac ychwanegu symbolaeth
Ychwanegu symbolaeth, creu effeithiau sain ac amlygu digwyddiadau pwysig ar y llwyfan
Beth ydy gair arall am y goleuadau eu hunain?
Llusernau
Gwreichion
Tortshis
Beth ydy gobo?
Llen liw wedi ei gosod ar ffrâm ar flaen y golau sy’n newid lliw’r golau
Llen wedi ei gosod ar ffrâm ar flaen y golau, gyda chynllun neu batrwm wedi ei dorri ynddi
Math o lusern sy’n taflu siapiau a phatrymau ar y llwyfan
Pa fath o olau ydy hwn?
Sbot
Ffresnel
Llifolau
Beth mae golau strôb yn ei wneud?
Mae’n fflachio ac yn creu effaith herciog ar symudiadau’r actorion
Mae’n newid lliw
Mae’n goleuo’r awditoriwm fel bod pobl yn gweld eu ffordd i’w seddau
Beth ydy isgerddoriaeth?
Cerddoriaeth sy'n cael ei chwarae fel islais i’r actio ar lwyfan i greu naws ac awyrgylch
Dilyn yr actor gyda golau sbot wrth iddo ganu
Canu dy linellau yn yr ymarfer i dy helpu i’w dysgu
Beth ydyn ni'n ei ystyried ydy pâr o sbectol?
Prop
Set
Gwisg
Beth ydy’r term i’w ddefnyddio pan fydd un math o oleuo yn newid yn raddol i un arall?
Pylu
Torri
Drifftio