Arwynebedd arwyneb a chyfaint test questions

1

Mae tanc ciwboid sy’n mesur 5 m wrth 3 m wrth 10 m yn cael ei lenwi â dŵr. Yna mae’r dŵr hwn yn cael ei arllwys i danciau ciwb sydd ag ochrau sy’n mesur 2 m. Sawl tanc all gael ei lenwi’n llawn?

2

Mae cwestiynau 2 i 10 ar gyfer yr haenau canolradd ac uwch

Arwynebedd arwyneb un ciwb yw 48 mm3. Mae tri chiwb yn cael eu rhoi at ei gilydd fel y dangosir isod. Beth yw arwynebedd arwyneb y siâp newydd?

Ciwb a chiwboid wedi'i wneud o 3 chiwb

3

Bydd y graffeg hwn yn dy helpu i ateb cwestiynau 3 a 4:

Prism triongl â dimensiynau 7 m x 12 m x 11.5 m x 4 m

Beth yw cyfaint y prism trionglog?

4

Beth yw arwynebedd arwyneb y prism trionglog?

5

Bydd y graffeg hwn yn dy helpu i ateb cwestiynau 5 a 6:

Siâp pyramid â sylfaen sgwâr

Mae gan y terariwm hwn sylfaen sgwâr a hyd 8 cm, ac mae ei uchder yn 12 cm. Mae pob ochr drionglog yr un maint.

Os yw’r planhigion sydd y tu mewn yn llenwi 132 cm3, faint o ofod gwag sydd y tu mewn?

6

Beth yw arwynebedd arwyneb y pyramid, gan gynnwys y sylfaen?

7

Bydd y graffeg hwn yn dy helpu i ateb cwestiynau 7 ac 8:

Siâp cyfansawdd â dimensiwn 20 cm x 35 cm x 10 cm x 29 cm x 23 cm x 20 cm

Mae’r braslun yn dangos dimensiynau tŷ model i’w adeiladu o gardfwrdd.

Beth yw arwynebedd arwyneb y tŷ model?

8

Beth yw cyfaint y tŷ model?

9

Bydd y graffeg hwn yn dy helpu i ateb cwestiynau 9 a 10:

Côn hufen iâ

Mae côn hufen iâ yn cael ei lenwi â hufan iâ a’i orffen â siâp hemisffer ar y top. Diamedr y côn yw 5 cm a chyfanswm uchder yr hufen iâ yw 14 cm.

Beth yw cyfaint yr hufen iâ a gafodd ei ddefnyddio? Rho dy ateb i’r cm3 agosaf.

10

Beth yw arwynebedd arwyneb yr hufen iâ, gan gynnwys y côn? Rho dy ateb i un lle degol.