Beth mae canol y ddinas yn cael ei galw?
Maestrefi
Canol Busnes y Dref (CBD)
Canol y dref
Pa gynnyrch sy’n nwyddau cyfleus?
Llaeth a bara
Tegellau
Siediau gardd
Pa un o’r rhain sy’n ffactor economaidd a arweiniodd at dwf parciau adwerthu y tu allan i’r dref?
Mae gwerth tir yng nghanol busnes y dref (CBD) yn llawer mwy na gwerth tir rhatach y tu allan i’r dref
Mae gwerth tir yng nghanol busnes y dref (CBD) yn llawer llai na gwerth tir drud y tu allan i’r dref
Mae’n well gan gwsmeriaid siopa mewn siopau dan yr un to
Pa un o’r rhain sy’n gost sy’n gysylltiedig â siopa y tu allan i’r dref?
Mwy o draffig a thagfeydd
Mae cwmnïau’n gwneud gormod o arian
Mae adeiladu siopau neu barciau adwerthu y tu allan i’r dref yn fwy costus nag addasu a moderneiddio adeiladau hŷn yng nghanol busnes y dref (CBD)
Pa un o’r lleoliadau isod sy’n enghraifft o ganolfan siopa y tu allan i dref yng Nghymru?
Cribbs Causeway
Glen Arthur
McArthurGlen
Sut mae gwerthiant siopa ar y rhyngrwyd wedi newid ymhlith oedolion yn y 15 mlynedd diwethaf?
Mae gwerthiant wedi cynyddu’n aruthrol
Mae gwerthiant wedi cynyddu ychydig
Nid yw gwerthiant wedi newid llawer
Pa un o’r rhain sy’n un o fanteision siopa ar y rhyngrwyd o’i gymharu â siopa ar y stryd fawr?
Mae llai o bobl yn ymweld â chanol busnes y dref felly mae busnesau’n dioddef
Mae nwyddau’n gallu cael difrod wrth gael eu cludo ac efallai na fydd pobl yn gallu cael eu harian yn ôl
Mae’n llawer mwy cyfleus – does dim rhaid i ti adael dy gartref
Beth sydd wedi digwydd i adwerthu ar y stryd fawr o ganlyniad i siopa y tu allan i’r dref a siopa ar y rhyngrwyd?
Mae busnesau wedi colli busnes
Mae busnesau ar eu hennill oherwydd bod mwy o bobl yn siopa erbyn hyn
Nid yw busnesau wedi gweld unrhyw newid
Pam y mae gwneud y stryd fawr yn ardal i gerddwyr yn unig yn cael ei weld fel strategaeth a fydd yn helpu i ddenu siopwyr yn ôl?
Bydd yn haws parcio'r car gan nad oes cyrb ar ochr y pafin
Mae strydoedd i gerddwyr yn unig yn gwneud siopa’n fwy pleserus a diogel
Mae’n anoddach symud o gwmpas ar strydoedd i gerddwyr yn unig
Beth yw ystyr y term effaith luosydd negyddol?
Pan mae un effaith o fudd i un arall
Pan mae un broblem yn arwain at un arall
Math o ddata mathemategol