Hanner oes test questions

1

Mae defnyddiau ymbelydrol yn dadfeilio'n naturiol ac yn rhyddhau ymbelydredd alffa, beta neu gama. Beth yw enw’r nifer o niwclysau sy'n dadfeilio bob eiliad?

2

Beth yw becquerel?

3

Pa un o'r isotopau ymbelydrol canlynol fyddai'r mwyaf addas fel olinydd i fonitro llif gwaed yng nghalon claf?

4

Mae actifedd ffynhonnell ymbelydrol yn gostwng o 8,000 cyfrif y munud i 500 cyfrif y munud mewn 20 awr. Beth yw hanner oes y ffynhonnell?

5

Pa un o'r isotopau canlynol fyddai'n cael ei ddefnyddio mewn peiriant i fesur trwch papur?

6

Pa ganran o sampl poloniwm gwreiddiol fydd yn weddill ar ôl tri hanner oes?

7

Beth yw hanner oes isotop ymbelydrol?

8

Mae actifedd carbon-14 sampl pren o goeden fyw yn 120 Bq. Mae actifedd pren o gloddfa archaeolegol yn 30 Bq. Mae hanner oes carbon-14 yn 5,730 o flynyddoedd. Amcangyfrifa oed y pren marw.

9

Mae canser mewnol yn cael ei drin drwy chwistrellu swm bach o isotop ymbelydrol yn uniongyrchol i mewn i'r canser. Pa isotop y dylid ei ddefnyddio?

10

Mewn ffatri grawnfwydydd, mae'r grawnfwyd sy'n cael ei roi mewn blwch cardfwrdd yn cael ei fesur â ffynhonnell ymbelydrol sy'n cael ei roi ychydig bach o dan y top. Pan mae'r grawnfwyd yn ei gyrraedd, mae'r gyfradd cyfrif ar yr ochr arall yn lleihau'n sylweddol, gan atal y broses lenwi. Pa ffynhonnell ymbelydrol y dylid ei defnyddio?