Pa fath o iaith ddylet ti ei defnyddio wrth gyflwyno gwybodaeth ar lafar?
Iaith naturiol bob dydd
Iaith swyddogol neu ffurfiol
Bratiaith
Beth ddylet ti gofio ei wneud ar ddechrau ac ar ddiwedd dy ddarn?
Cyfarch a diolch i’r gynulleidfa
Rhoi dy enw i’r gynulleidfa
Ailadrodd y testun sydd gennyt o dan sylw
Pa frawddeg agoriadol yw’r un fwyaf effeithiol?
Mae llawer yn dal i frwydro dros hawliau’r iaith Gymraeg
Does dim dewis ond brwydro dros hawliau’r iaith Gymraeg
Gyfeillion, pam ein bod ni’n dal i orfod brwydro dros ddyfodol yr iaith Gymraeg?
Pam mae cynnwys elfen bersonol wrth gyflwyno gwybodaeth ar lafar yn syniad da?
Er mwyn bod yn wahanol i bawb arall
Er mwyn diddori’r gynulleidfa
Er mwyn osgoi gorfod defnyddio llawer o ffeithiau a manylion am y testun
Pam nad yw hi’n syniad da i ddarllen dy ddarn gair am air?
Bydd angen llawer o bapur i nodi popeth
Ni fydd y cyflwyniad yn llifo’n naturiol os gwnei di ei ddarllen gair am air
Does dim problem darllen y cyflwyniad gair am air