Yn y broses gyffwrdd, beth yw'r defnyddiau crai sydd eu hangen i gynhyrchu asid sylffwrig?
Dŵr, aer, sylffwr
Amonia, dŵr, ocsigen
Olew crai, aer
Pa un o'r tri cham hyn yn y broses gyffwrdd sy'n gildroadwy?
Llosgi sylffwr mewn ocsigen i ffurfio sylffwr deuocsid
Adwaith sylffwr deuocsid ag ocsigen i ffurfio sylffwr triocsid
Adwaith sylffwr triocsid â dŵr i ffurfio asid sylffwrig
Beth yw enw’r catalydd rydyn ni'n ei ddefnyddio yn y broses gyffwrdd?
Haearn
Nicel
Fanadiwm(V) ocsid
Edrych ar y siart cylch. Beth yw canran (%) yr asid sylffwrig rydyn ni'n ei ddefnyddio mewn paentiau a phigmentau?
17%
11%
22%
Mae angen amsugno'r sylffwr triocsid mewn asid sylffwrig crynodedig, yn hytrach na'i roi'n uniongyrchol mewn dŵr. Pam?
Bydd ei roi mewn dŵr yn arafu'r adwaith
Bydd ei roi mewn dŵr yn ecsothermig iawn
Bydd ei roi mewn dŵr yn cyflymu'r adwaith
Sut byddet ti'n disgrifio tuedd y graff?
Wrth i’r tymheredd gynyddu, mae'r cynnyrch canrannol yn lleihau ar gyfradd sy'n lleihau
Wrth i’r tymheredd gynyddu, mae'r cynnyrch canrannol yn cynyddu ar gyfradd sy'n cynyddu
Wrth i’r tymheredd gynyddu, mae'r cynnyrch canrannol yn lleihau ar gyfradd sy'n cynyddu
Pa un o’r canlynol yw'r hafaliad symbolau cywir ar gyfer cynhyrchu sylffwr triocsid ar ail gam y broses gyffwrdd?
2SO2(n) + O2(n) ⇌ 2SO3(n)
2SO2(n) + O2(n) → 2SO3(n)
2S(s) + 3O2(n) → 2SO3(n)
Mae asid sylffwrig yn gweithredu fel dadhydradydd. Beth yw ystyr hyn?
Tynnu ocsigen o sylwedd
Tynnu dŵr o sylwedd
Tynnu carbon deuocsid o sylwedd
Pan rydyn ni'n ychwanegu asid sylffwrig crynodedig at glwcos, mae solid du yn ffurfio dros amser. Beth yw enw'r solid du?
Copr(II) ocsid
Glo
Carbon
Beth bydden ni'n ei weld wrth ychwanegu asid sylffwrig crynodedig at grisialau copr(II) sylffad hydradol?
Mae’r grisialau glas yn briwsioni ac yn troi'n wyn, ac mae ager yn cael ei ryddhau
Mae’r grisialau glas yn briwsioni ac yn troi'n wyn
Mae'r grisialau'n aros yn las