Gwahanu cymysgeddau test questions

1

Pa sylwedd gallwn ni ei wahanu o'r cymysgedd isod drwy hidlo?

2

Pa ddull rydyn ni'n ei ddefnyddio i gael grisialau copr sylffad o hydoddiant copr sylffad?

3

Pa ddull bydden ni’n ei ddefnyddio fel arfer i wahanu llifynnau lliw a'u hadnabod nhw?

4

Ble rydyn ni'n rhoi'r smotiau o'r samplau wrth wneud cromatograffaeth?

5

Mae Bethan wedi casglu sampl o ddŵr y môr mewn bwced o'i thraeth lleol. Mae'r dŵr y môr yn cynnwys dŵr, halen a thywod. Pa gyfres o dechnegau gwahanu gallai hi eu defnyddio i wahanu a chasglu'r tywod, yr halen a'r dŵr?

6

Mae gwerth Rf pigment mewn inc yn 0.75. Os yw'r ffin hydoddydd yn 8 cm, gan ddefnyddio'r hafaliad canlynol, beth yw'r pellter mae pigment wedi ei symud?

Gwerth Rf = pellter mae'r pigment wedi'i symud÷ pellter mae’r ffin hydoddydd wedi'i symud

7

Beth yw cymysgedd?

8

Mae pigment o inc yn teithio 4 cm ar ddarn o bapur cromatograffaeth, a'r ffin hydoddydd yn teithio 10 cm. Beth yw gwerth Rf y pigment?

9

Mae disgybl eisiau gwahanu cymysgedd o ethanol, olew olewydd a dŵr gan ddefnyddio dull distyllu. Mae berwbwynt ethanol yn 78˚C, ac mae berwbwynt olew olewydd yn 300˚C. Pa sylwedd sy'n cael ei gasglu gyntaf?

10

Pa osodiad sy'n wir ar gyfer newid cemegol?