Beth yw dalgylch afon?
Y darn o dir sy’n cael ei ddraenio gan afon
Term arall am suddfan
Y gefnen o dir uchel sydd o amgylch afon
Beth yw gwahanfa ddŵr?
Y ffin rhwng un dalgylch afon ac un arall
Y pwll dwfn yng gwaelod rhaeadr
Man cychwyn afon
Mae’r gylchred hydrolegol yn system gaeedig. Beth mae hyn yn ei olygu?
Mae hyn yn golygu bod swm penodol o ddŵr yn y system, ac nad yw’r swm hwn yn newid
Mae hyn yn golygu bod swm y dŵr sydd yn y system yn amrywio ac yn newid dros gyfnod
Mae hyn yn golygu bod swm y dŵr sydd yn y system yn amrywio, gan fod mewnbynnau’n newid gan ddibynnu ar y lleoliad daearyddol
Beth yw llif trostir?
Symudiad dŵr drwy’r pridd
Cyfanswm y dyodiad sy’n llifo dros arwyneb y dalgylch
Dŵr sy’n cael ei storio ar yr arwyneb
Mae’r broses derfynol o ryddhau’r dŵr mewn dalgylch afon yn allbwn. Edrych ar y dewisiadau isod. Pa un ohonyn nhw sy’n allbwn?
Anwedd-drydarthiad
Dyodiad
Ymdreiddiad
Beth mae hydrograff yn ei ddangos?
Dau graff - siart bar yn dangos glawiad a graff llinell yn dangos arllwysiad cyn, yn ystod ac ar ôl y storm law sy’n cael ei dangos yn y graff bar
Y gwahaniaethau rhwng dwy afon dros gyfnod
Un graff – graff llinell yn dangos arllwysiad cyn, yn ystod ac ar ôl y storm law
Beth yw ystyr y term 'oediad amser'?
Dyma’r gwahaniaeth mewn amser rhwng anterth y storm a llif uchaf yr afon
Yr amser pan mae’r llif trostir yn cael ei fesur
Y gwahaniaeth rhwng swm y dŵr yn yr afon ar ddechrau’r storm ac ar ddiwedd y storm
Pa ddatganiad isod sy’n un o achosion ffisegol y llifogydd yn Boscastle?
Doedd gan y bobl ddim bagiau tywod
Aeth tornado mawr drwy’r pentref
Roedd y ddaear eisoes yn ddirlawn ar ôl glaw trwm ac ni allai ddal mwy o ddŵr
Pa un o’r canlynol sy’n ddull peirianneg feddal o amddiffyn rhag llifogydd?
Datgoedwigo
Adeiladau argaeau
Coedwigo
Pa grwpiau o bobl fyddai o bosibl yn ffafrio strategaethau peirianneg galed yn hytrach na strategaethau peirianneg feddal er mwyn lleihau’r risg o lifogydd?
Amgylcheddwyr
Llywodraethau a datblygwyr
Trigolion lleol