Titradu a chyfrifiadau test questions

1

Er mwyn i ganlyniadau titradiad fod yn gytûn, o fewn pa gyfaint ddylai’r titrau fod?

2

Pa ddarn o gyfarpar rydyn ni'n ei ddefnyddio i ychwanegu symiau bach wedi'u mesur o un adweithydd at yr adweithydd arall mewn titradiad?

3

Pam mae hi'n bwysig rhoi'r fflasg gonigol ar deilsen wen wrth wneud titradiad?

4

Pa ddarn o'r menisgws dylid ei ddefnyddio wrth ddarllen cyfaint yr hylif yn y fwred?

5

Beth yw crynodiad, mewn mol/dm3, yr hydoddiant sy'n ffurfio wrth i 50.50 g o botasiwm nitrad (KNO3) hydoddi mewn 250 cm3 o ddŵr? [Haen uwch yn unig]

6

Mae disgybl yn canfod bod angen 25.6 cm3 o HCl 0.3 mol/dm3 i niwtraleiddio cyfaint penodol o hydoddiant sodiwm carbonad 0.1 mol/dm3. Beth yw cyfaint y Na2CO3(dyfr)? [Haen uwch yn unig]

Na2CO3 + 2HCl →2NaCl + H2O + CO2

7

Mae 12.5 cm3 o HNO3 dyfrllyd yn cael ei niwtraleiddio gan 25 cm3 o hydoddiant bariwm hydrocsid 0.02 mol/dm3. Beth yw crynodiad yr asid nitrig? [Haen uwch yn unig]

Ba(OH)2 + 2HNO3 → Ba(NO3)2 + 2H2O

8

Mae asid ethanöig CH3COOH a NaOH yn adweithio mewn cymhareb 1:1. Mae 30 cm3 o CH3COOH yn adweithio â 20 cm3 o NaOH 1.5 mol/dm3. Pa fàs o asid ethanöig fyddai'n bresennol mewn 1 dm3 o'r hydoddiant uchod os yw Mr (asid ethanöig) = 60? [Haen uwch yn unig]

9

Mewn titradiad asid-alcali, pa ddarn o gyfarpar rydyn ni'n ei ddefnyddio i fesur 25.0 cm3 yn union o'r alcali i mewn i'r fflasg gonigol?

10

Mewn titradiad, gwerth y titr cyntaf oedd 23.50 cm3. Y gwerthoedd titr nesaf oedd 22.40, 22.80 a 22.90. Pa ddau werth dylen ni eu defnyddio i gyfrifo'r titr cyfartalog?