Mae sampl o ddŵr tap yn cael ei brofi am galedwch. Mae angen 23 cm3 o hydoddiant sebon i ffurfio trochion sy'n para. Mae sampl o'r un dŵr tap yn cael ei ferwi, ei adael i oeri ac yna ei brofi am galedwch. Mae angen 17 cm3 o hydoddiant sebon i ffurfio trochion sy'n para yn y sampl wedi'i ferwi. Pa gasgliad alli di ei ffurfio am y math o galedwch yn y dŵr tap hwn?