Y raddfa pH a dangosyddion test questions

1

Beth yw gwerth pH hydoddiant niwtral?

2

Pa un o’r hydoddiannau canlynol allai fod â pH o 12?

3

Beth yw fformiwla’r ïon sy’n cael ei gynhyrchu gan asidau mewn hydoddiant dyfrllyd?

4

Sut mae crynodiadau'r ïonau mewn hydoddiant alcalïaidd yn cymharu â dŵr pur?

5

Sut mae gwanedu asid â dŵr yn effeithio ar y pH?

6

Mae swm bach o asid hydroclorig yn cael ei hydoddi mewn cyfaint mawr o ddŵr. Beth yw'r disgrifiad gorau o'r hydoddiant hwn?

7

Pa un o'r rhain sy'n adwaith niwtralu?

8

Beth mae cemegydd yn ei olygu wrth ddweud bod asid yn daduno mewn dŵr?

9

Yn seiliedig ar y graff, beth yw cyfaint y potasiwm hydrocsid sydd ei angen i niwtraleiddio'r asid?

Graff o pH yn erbyn Cyfaint y potasiwm hydrocsid a ychwanegwyd (cm3). Mae llinell goch yn codi’n raddol i pH 2.5 a 25 cm3, ac yna’n codi i pH 11.5, yna mae’n codi’n raddol eto i pH 12.5 a 50 cm3.

10

O'r graff, sut byddet ti'n disgrifio sut mae'r pH a'r asidedd mewn dŵr yn newid rhwng 1992 a 2010?

Graff o pH yn erbyn Blwyddyn. Rhwng 1990 a 2015 mae’r pH yn codi’n raddol o 4 i 5.