Mewn electrolysis, beth yw enw'r electrod negatif?
Electrolyt
Catod
Anod
Yn ystod electrolysis hydoddiant sodiwm clorid, beth yw'r cynnyrch ar y catod?
Hydrogen
Sodiwm
Clorin
Pa un o’r canlynol sy’n osodiad cywir am electroleiddio hydoddiant sodiwm clorid?
Mae hydrogen yn ffurfio ar yr electrod positif
Mae sodiwm yn ffurfio ar yr electrod negatif
Mae clorin yn ffurfio ar yr electrod positif
Pa opsiwn bydden ni'n gallu ei ddefnyddio fel electrolyt wrth buro copr?
Copr(II) sylffad
Plwm(II) nitrad
Dŵr distyll
Pa hanner hafaliad sy'n dangos beth sy'n digwydd ar yr electrod negatif wrth i ni ddefnyddio electrolysis i buro copr?
Cu2+ + 2e- → Cu
Cu2+ → Cu + 2e-
Cu → Cu2+ + 2e-
Ble mae ocsidio'n digwydd yn ystod electrolysis?
Ar yr anod
Ar y catod
Yn yr electrolyt
Mae hydoddiant copr(II) sylffad yn cael ei electroleiddio ag electrodau copr. Pa un o’r gosodiadau hyn sy’n gywir?
Mae copr yn cael ei gynhyrchu ar yr anod
Mae màs y catod yn cynyddu
Mae lliw glas yr hydoddiant yn mynd yn oleuach
Yn ystod electrolysis dŵr, mae hydrogen yn cael ei gynhyrchu ar y catod. Beth yw hanner hafaliad yr adwaith ar y catod?
H+ + 1e- → H
H2 → 2H+ + 2e-
2H+ + 2e- → H2
Beth yw'r tri chynnyrch sy'n ffurfio wrth i ni electroleiddio heli?
Sodiwm hydrocsid, hydrogen ac ocsigen
Sodiwm hydrocsid, hydrogen a chlorin
Sodiwm hydrocsid, ocsigen a chlorin
Pam mae'n rhaid i electrolyt fod yn dawdd neu mewn hydoddiant?
Fel bod yr electrolyt yn cynnwys dŵr
Fel bod yr electrolyt yn cynnwys electronau sy'n symud yn rhydd
Fel bod yr electrolyt yn cynnwys ïonau sy'n symud yn rhydd