Yn ystod pa un o’r digwyddiadau hanesyddol mawr hyn oedd Stanislavski’n fyw?
Armada Sbaen
Chwyldro Rwsia
Rhyfeloedd Napoleon
Ai Stanislavski, a oedd yn ddyn cyfoethog iawn, oedd perchennog Theatr Celfyddydau Moscow?
Stanislavski oedd unig berchennog Theatr Celfyddydau Moscow
Sylfaenodd Theatr Celfyddydau Moscow ar y cyd â Vladimir Nemirovich Danchenko
Dim ond rhan o’r cwmni o’r enw Theatr Celfyddydau Moscow oedd Stanislavski
Beth ydy ystyr y bedwaredd wal yn nhermau’r theatr?
Bod pedwaredd wal ystafell wedi ei thynnu fel bod y gynulleidfa’n gweld i mewn
Ffordd o rwystro’r gynulleidfa fel bod yr actorion yn gallu canolbwyntio ar eu gwaith
Term sy’n cyfeirio at waith meim realistig
Pa un o’r llyfrau hyn sydd ddim wedi’i ysgrifennu gan Stanislavki?
An Actor Dares
Building a Character
My Life in Art
Beth ydy’r ‘os hudol’ sy’n cael ei ddefnyddio wrth gyfeirio at waith Stanislavski?
Beth fyddai’n digwydd i’r perfformiad pe bai propiau dychmygol yn cael eu defnyddio
Y cwestiwn a oes modd perfformio rhan ar y llwyfan ai peidio
Y syniad bod yr actor yn holi 'Beth fyddwn i’n ei wneud yn y sefyllfa hon?' ac actio’r rhan yn unol â hynny
Sut y disgrifiodd Stanislavski y cylch cyntaf o sylw?
Y parth ynysu
Unigedd mewn man cyhoeddus
Y parth rhyngweithiol
Beth fyddet ti’n disgwyl ei weld ar set lwyfan realistig?
Dodrefn a phropiau sy’n edrych fel pe baen nhw’n perthyn i fywyd go iawn
Propiau bras i awgrymu’r peth go iawn
Propiau go iawn ond llwyfan gwag
Beth ydy’r gwahaniaeth rhwng amcan ac uwch-amcan?
Amcan ydy’r rheswm am wneud rhywbeth ac mae uwch-amcan yn syniad gwell
Amcan sy’n gyrru un weithred ond uwch-amcan ydy prif amcan y cymeriad drwy’r ddrama
Mae amcan yn gynllun ond mae uwch-amcan yn gynllun gwell
Beth ydy emosiwn neu gof emosiynol?
Atgof mae’r actor yn ei adalw ac yn ei ddefnyddio i actio sefyllfa debyg yn y ddrama
Pan fydd actor yn teimlo’n drist
Pan fydd actor yn gorfod actio golygfa drist
Beth ydy is-destun?
Geiriau sy’n cael eu dweud gan lefarydd
Geiriau sy’n cael eu sibrwd ar y llwyfan
Yr ystyr sydd y tu ôl i’r geiriau mae’r cymeriad yn eu llefaru