Beth yw enw’r gwyddonydd a gydweithiodd gyda Darwin ar ddamcaniaeth detholiad naturiol?
Watson
Wallace
Mendel
Mae mwtaniad ar rai bacteria sy’n caniatáu iddynt wrthsefyll gwrthfiotigau. Beth mae hyn yn ei olygu?
Mae gan facteria â mwtaniad fantais
Mae bacteria â mwtaniad dan anfantais
Mae gan wrthfiotigau fantais
Mae organebau sydd â mantais goroesi yn fwy tebygol o wneud beth?
Marw
Bridio
Esblygu
Pa un o’r geiriau hyn sy’n disgrifio bacteria na ellir eu lladd mwyach gan wrthfiotig?
Gwrthsafol
Imiwn
Anactif
Pa un o’r rhain sy’n straen o facteria sy’n gwrthsefyll gwrthfiotigau, neu arch-fỳg/superbug?
HIV
MRSA
AIDS
Beth yw mwtaniad?
Newid yn DNA organeb
Newid yng ngolwg organeb
Newid yn ymddygiad organeb
Pa un o’r rhain sy’n wrthfiotig cyffredin?
Penisilin
Parasetamol
Aspirin
Pa un o’r rhain sy’n annog twf bacteria sy’n gwrthsefyll gwrthfiotigau?
Peidio gorffen y cwrs gwrthfiotigau
Peidio gwneud digon o ddefnydd o wrthfiotigau
Rhagnodi gwrthfiotigau priodol yn unig
Pa un o’r rhain sy’n ddiffiniad o ddiflaniad rhywogaeth?
Y dinosoriaid yn unig yn marw o’r tir
Organebau’n marw mewn ardal arbennig
Rhywogaeth yn marw o’r tir yn gyfan gwbl
Pa un o’r ffactorau hyn sy’n gallu arwain at ddiflaniad rhywogaeth?
Brechiadau newydd
Clefydau newydd
Rhaglenni bridio mewn caethiwed