Tebygolrwydd test questions

1

Beth yw’r tebygolrwydd o daflu rhif cysefin ar ddis sydd â 10 ochr arno?

2

Os mai’r tebygolrwydd y bydd digwyddiad A yn digwydd yw \(\frac{6}{13}\), beth yw’r tebygolrwydd na fydd yn digwydd?

3

Mae James yn cyfri nifer y ceir melyn sy’n mynd heibio ei ffenest. Allan o gyfanswm o 50 car, roedd 15 yn felyn. Beth yw amlder cymharol y ceir melyn?

4

Mae James yn dweud mai’r tebygolrwydd y bydd y car nesaf sy’n mynd heibio ei ffenest yn felyn yw \(\frac{15}{50}\). Beth sydd o’i le gyda datganiad James?

5

Mae’r ddau gwestiwn canlynol yn cyfeirio at y tabl dwyffordd hwn:

Tabl gyda thair rhes a thair colofn. Mae’n dangos faint o fechgyn a merched sydd â llygaid glas a lliwiau eraill.

Pa rif sydd ar goll o’r tabl dwyffordd?

6

Os byddaf yn dewis bachgen, beth yw’r tebygolrwydd na fydd ganddo lygaid glas?

7

Defnyddia’r tabl dwyffordd hwn i ganfod y tebygolrwydd bod yn well gan berson a ddewisir ar hap wylio cartwnau na rhaglenni dogfen.

Tabl gyda thair rhes a thair colofn. Mae’n dangos faint o fechgyn a merched sy’n well ganddyn nhw wylio cartwnau a rhaglenni dogfen.

8

Mae Jackie yn mynd i daflu dau ddarn o arian. Beth yw’r tebygolrwydd y bydd hi’n cael o leiaf un pen? Llunia ddiagram gofod sampl i dy helpu.

9

Mae’r ddau gwestiwn canlynol yn cyfeirio at y diagram Venn hwn:

Diagram Venn gyda dau gylch yn gorgyffwrdd wedi eu labelu â ‘Ci’ a ‘Cath’.

O’r rhai a gafodd eu samplu, beth yw’r tebygolrwydd bod perchennog anifail anwes yn berchen ar gi a chath?

10

Beth yw’r tebygolrwydd bod person sydd ddim yn berchen ar gi, yn berchen ar gath?