Beth yw addoli?
Gweithred o ddefosiwn crefyddol
Gwylio dy hoff dîm
Ymlacio yn dy gartref
Pam mae gweddïo cymunedol yn bwysig i Gristnogion?
Maen nhw eisiau i bawb eu gweld nhw'n gweddïo
Maen nhw eisiau cyfarfod â'u ffrindiau
Maen nhw eisiau deall y Beibl yn well
Beth yw ystyr addoli anlitwrgaidd?
Does dim ffurf osodedig
Mae'n dilyn trefn osodedig
Does dim cerddoriaeth
Pwy yw arweinydd Eglwys Rufain?
Y Pab
Archesgob Caergaint
John Wesley
Beth yw pulpud?
Bwrdd sy'n dal y bara a'r gwin ar gyfer y Cymun Sanctaidd
Cynhwysydd dŵr
Platfform uchel lle y bydd y pregethwr yn sefyll i roi pregeth
Beth sy’n digwydd mewn Cymun Sanctaidd?
Mae pobl yn cyfarfod yn anffurfiol ac yn siarad
Mae pobl yn cerdded ac yn dawnsio o gwmpas yr eglwys
Mae pobl yn cael bara a gwin, sy'n cynrychioli corff a gwaed Iesu Grist
Pa un o’r canlynol sy'n un o nodweddion addoli anghydffurfiol?
Mae'r bwrdd cymun mewn safle canolog, fel arfer o flaen y pulpud
Mae'r Cymun Sanctaidd yn cael ei ddathlu unwaith yr wythnos
Mae'r gynulleidfa'n penlinio wrth y rheilen cymun ac yn cael cymun
Pa fath o weddi yw 'addoliad'?
Moli Duw am ei fawredd a chydnabod dibyniaeth arno
Gofyn i Dduw am rywbeth, ee iacháu, dewrder neu ddoethineb
Cyfaddef pechod a gofyn am drugaredd a maddeuant Duw
Pam mae gweddïo preifat yn bwysig i rai Cristnogion?
Mae'n golygu y galli di dreulio amser tawel ar dy ben dy hun ym mhresenoldeb Duw
Mae'n golygu y galli di foli Duw gyda phobl eraill i ddangos undod
Mae'n golygu y galli di wneud pethau eraill ar yr un pryd