Beth ydy strwythur drama?
Y math o ddrama, ee comedi, trasiedi
Y ffordd mae'r golygfeydd a’r digwyddiadau yn cael eu trefnu er mwyn creu effaith ddramatig
Nifer y golygfeydd a’r digwyddiadau sydd yn y ddrama
Beth ydy ôl-fflach?
Pan fydd y ddrama’n symud i gyfnod cynharach mewn amser
Pan fydd y digwyddiadau’n symud ymlaen mewn amser
Pan fydd tywyllwch yn cael ei ddefnyddio rhwng golygfeydd i’w gwahanu
Beth ydy’r dadleniad?
Araith ar ddechrau’r ddrama
Canlyniad neu ddatrysiad y stori i’r gynulleidfa
Y pwynt yn y ddrama lle mae’r tyndra ar ei uchaf
Beth mae rhedeg golygfeydd mewn trefn gronolegol yn ei greu?
Drama ddiflas
Strwythur anllinellol
Strwythur llinellol
Pa fath o strwythur fyddai’n fwyaf tebygol o greu eironi dramatig?
Strwythur naratif
Beth ydy tyndra dramatig?
Adeiladu disgwyliadau neu gyffro i’r gynulleidfa
Pan fydd rhywbeth yn mynd o’i le ar y llwyfan
Pan fydd actorion dan straen ac yn nerfus ac felly’n gorfod ymlacio er mwyn perfformio ar eu gorau
Beth ydy uchafbwynt?
Y foment bwysicaf neu fwyaf cyffrous mewn drama
Drama gyffrous
Y foment ar ôl torri’r tyndra ac mae’n dechrau distewi
Pam fod amrywio cyflymder yn bwysig?
Os byddi di’n siarad yn rhy gyflym drwy’r amser fydd y gynulleidfa ddim yn deall beth fyddi di’n ei ddweud
Mae’n gwneud y daith ddramatig yn gyffrous i’r gynulleidfa
Mae angen i’r ddrama arafu ambell waith er mwyn rhoi cyfle i’r gynulleidfa ddeall beth sy’n digwydd
Pa un o’r rhain allai arafu’r cyflymder neu amharu ar greu tyndra mewn darn o ddrama?
Sefyll yn y man anghywir ar y llwyfan
Defnyddio seibiannau
Newidiadau lletchwith o ran golygfa neu wisg
Pa un o’r mathau hyn o waith fyddai byth yn defnyddio strwythur anllinellol?
Drama gan Chekhov
Darn o Theatr Gorfforol
Drama Theatr Mewn Addysg