Amserlenni test questions

1

Amserlen deledu yn dangos manylion S4C 1, S4C 2 ac S4C 3 rhwng 7yh a 10.30yh

Os bydda i'n colli darllediad cyntaf Pobol y Cwm, pryd alla i wylio'r ailddarllediad ac ar ba sianel?

2

Faint o amser sydd rhwng diwedd Y Clwb Rygbi a dechrau Ralïo?

3

Adran o amserlen Tiwb Llundain o Earls Court i Tower Hill

Dwi'n teithio o Earls Court i St. James’ Park. Ar ba amserau ydw i'n gallu dal y tiwb?

4

Dwi'n cyfarfod â ffrind yn Nhŵr Llundain. Dwi'n byw yn South Kensington a bydda i'n dal y tiwb i Tower Hill. Bydd yn cymryd 5 munud i mi fynd o Tower Hill i Dŵr Llundain, dwi angen bod yno erbyn 6.45pm. Mae'n cymryd 10 munud i mi gyrraedd gorsaf tiwb South Kensington.

Beth yw'r amser hwyraf dw i'n gallu gadael fy nghartref?

5

Dwi'n dal y tiwb am 18:14 o Earls Court, yn stopio yn Westminster am 15 munud ac yn dal y tiwb nesaf i orsaf Monument. Faint o'r gloch bydda i'n cyrraedd gorsaf tiwb Monument?

6

Siart yn dangos cost gwyliau yn Morocco

Faint fyddai'n costio i ddau oedolyn aros am 10 noson yn gadael ar 9 Mehefin?

7

Os yw pris un plentyn hanner pris oedolyn, faint fyddai'n costio i un oedolyn ac un plentyn aros am 3 noson, yn gadael ar 12 Mai?

8

Mae cwestiynau 8 - 10 yn cyfeirio at y siart hwn:

Siart pellter yn dangos y pellter, mewn milltiroedd, rhwng pum dref yng Nghymru

Mae’r rhifau ar y siart yn dangos y pellter, mewn milltiroedd, rhwng un tref ag un arall.

Dwi'n gyrru o Gaerfyrddin i Aberteifi ac yn ôl. Pa mor bell ydw i wedi teithio?

9

Beth yw’r pellter pellaf sydd wedi ei ddangos, a rhwng pa ddwy dref mae hon?

10

Dwi'n teithio o Aberteifi i Gaerfyrddin ac yna ymlaen i Ddinbych-y-pysgod. Dwi'n parhau i un lleoliad arall sy'n golygu fy mod i wedi teithio 83 milltir i gyd. Pa dref yw fy lleoliad terfynol?