Mae'r ymennydd a madruddyn y cefn yn ffurfio pa system yn y corff?
Y system nerfol berifferol
Y brif system nerfol
Y system nerfol atgyrch
Beth sy'n wahanol am y ffordd mae ysgogiad yn cael ei drosglwyddo ar hyd niwronau, o gymharu ag ar draws synaps?
Mae synapsau’n trosglwyddo ysgogiadau trydanol ond mae niwronau'n trosglwyddo negeseuon cemegol
Mae niwronau'n trosglwyddo ysgogiadau ond dydy synaps ddim
Mae niwronau’n trosglwyddo ysgogiadau trydanol ond mae synapsau'n trosglwyddo negeseuon cemegol
Pa un o'r rhain sy'n ysgogiad?
Llygad
Golau
Niwron
Pa un o’r rhain sy’n effeithydd?
Madruddyn y cefn
Cyhyr
Ymennydd
Mae'r atgyrch tynnu'n ôl yn ymateb awtomatig a chyflym i ysgogiad. Pa air arall sy'n disgrifio atgyrch?
Araf
Amddiffynnol
Cyson
Mae atgyrch cannwyll llygad yn weithred atgyrch amddiffynnol yn y llygad. Pa osodiad am y weithred atgyrch hon sy’n gywir?
Mae cannwyll llygad yn ymledu i amddiffyn rhag golau cryf
Mae cannwyll llygad yn ymledu i amddiffyn rhag golau isel
Mae cannwyll llygad yn cyfangu i amddiffyn rhag golau cryf
Pa ffurfiad yn y llygad sy'n newid diamedr cannwyll y llygad?
Cornea
Iris
Lens
Pa ffurfiad yn y llygad sy'n cynnwys y celloedd sensitif i olau (celloedd derbyn)?
Retina
Nerf optig
Sglera
Pa ffurfiad yn y llygad sy'n haen sy'n cynnwys pigmentau a llawer o bibellau gwaed?
Coroid
Dallbwynt
Cannwyll y llygad
Pa niwron sy'n mynd â negeseuon o'r organ synhwyro i'r brif system nerfol?
Niwron echddygol
Niwron relái
Niwron synhwyraidd