Y Bydysawd test questions

1

Sbectrwm allyrru gyda llinellau glas, gwyrdd a choch ar gefndir tywyll.

Beth mae'r diagram hwn yn ei ddangos?

2

Sbectrwm amsugno gyda llinellau du ar gefndir y sbectrwm golau gweladwy.

Beth sy'n cynhyrchu'r math hwn o ddiagram?

3

Beth yw sbectrwm allyrru di-dor?

4

Mae seiren car heddlu'n seinio, ac mae'n teithio tuag atat ti. Rwyt ti'n gwrando ar y sain. Beth wyt ti'n sylwi arno?

5

Mae gyrrwr car yn gyrru ar yr un ffordd â char heddlu â'i seiren yn seinio, ond nid yw'n clywed dim gwahaniaeth yn nhraw'r seiren. Pam felly?

6

Edrych i lawr ar athro yn troi seinydd i gyfeiriad gwrthglocwedd. Mae’r athro yn wynebu rhes o ddisgyblion. Mae’r rhes wedi’i labelu ag A ar y chwith a B ar y dde.

Mae athrawes yn troi swnyn o gwmpas o flaen disgyblion. Mae'r swnyn yn allyrru nodyn. Beth fydd y disgyblion ym mhwyntiau A a B yn ei glywed?

7

Tri sbectra amsugno wedi’u labelu. Mae’r llinellau amsugno sy’n cael eu hallyrru gan alaeth 1 yn dangos y symudiad coch mwyaf. Mae’r symudiad coch yng ngalaethau 2 a 3 yn llai nag yng ngalaeth 1.

Pa un o’r galaethau hyn yw'r bellaf oddi wrth y Ddaear?

8

Dau sbectra llinell amsugno ar gyfer sêr, un uwchben y llall. Mae'r saethau’n mynd o’r un uchaf i'r un isaf gan ddangos bod y llinellau duon yn y sbectrwm isaf ymhellach i’r dde.

Beth mae'r diagram hwn yn ei ddangos?

9

Graff wedi’i labelu â ‘Pa mor bell yw’r alaeth‘ a ‘Pa mor gyflym mae’n symud oddi wrthym‘. Mae dotiau coch wedi’u clystyru ar hyd llinell syth sy’n dangos cydberthynas uniongyrchol.

Beth mae graff Hubble yn ei ddangos?

10

Beth mae'r pelydriad cefndir microdonnau cosmig (PCMC) yn ei wneud?