Pa elfen sy'n tynnu ocsigen o haearn(III) ocsid yn y broses ddiwydiannol o echdynnu haearn?
Copr
Calsiwm
Carbon
Pa un o’r rhain sy'n ddisgrifiad o ocsidio?
Ennill ocsigen
Colli ocsigen
Ennill hydrogen
Pa un o'r elfennau hyn sy'n elfen drosiannol?
Clorin
Pa briodwedd sy'n nodweddiadol i elfennau trosiannol?
Maen nhw'n ffurfio ïonau â gwahanol wefrau
Dydyn nhw ddim yn gryf
Maen nhw yn y cyflwr nwyol ar dymheredd ystafell
Ble mae’r metelau trosiannol yn y tabl cyfnodol?
Ar ochr chwith y tabl cyfnodol, yn grwpiau 1 a 2
Yng nghanol y tabl cyfnodol, rhwng grwpiau 2 a 3
Ar ochr dde'r tabl cyfnodol, yn grwpiau 7 ac 8
Pa un o’r rhain sy'n briodwedd nodweddiadol i bob metel trosiannol?
Hydrin
Brau
Ymdoddbwynt isel
Pa sylwedd yw'r rhydwythydd yn yr adwaith hwn?
F2O3 + 3CO → 2Fe + 3CO2
Fe2O3 (Haearn(III) ocsid)
CO (Carbon monocsid)
CO2 (Carbon deuocsid)
Pa un o’r hafaliadau hyn sy'n dangos rhydwytho yn digwydd? [Haen uwch yn unig]
Mg → Mg2+ + 2e
Cu - 2e → Cu2+
Cu2+ + 2e → Cu
Beth yw pwrpas ychwanegu calchfaen at ffwrnais chwyth?
Cael gwared ar amhureddau (ee tywod) o'r adwaith
Llosgi a darparu'r gwres sydd ei angen i'r adwaith ddigwydd
Rhydwytho'r haearn(III) ocsid yn y mwyn haearn sydd yna'n cynhyrchu metel haearn
Pan mae cyfansoddion haearn(III) yn adweithio â hydoddiant sodiwm hydrocsid, maen nhw'n cynhyrchu gwaddod o haearn(III) hydrocsid. Pa un o’r canlynol yw'r hafaliad ïonig cywir?
Fe3+(dyfr) + 3OH-(dyfr) → Fe(OH)3(s)
Fe3+ Cl-(dyfr) + 3Na+ OH-(dyfr) → Fe3+ (OH-)3(s) + Na+Cl-(dyfr)
Fe3+(dyfr) + 3OH-(dyfr) → Fe(OH)3(dyfr)