Pa fath o rymoedd sy'n dal dellten ïonig at ei gilydd?
Grymoedd electrostatig
Grymoedd cofalent
Grymoedd ïonostatig
Pa briodweddau sydd gan gyfansoddyn ïonig?
Berwbwynt isel ac mae'n dargludo trydan pan mae wedi'i hydoddi mewn dŵr
Ymdoddbwynt uchel ac mae'n dargludo trydan pan mae'n hylif
Berwbwynt uchel ac mae'n dargludo trydan pan mae'n solid
Pam mae gan gyfansoddion ïonig ymdoddbwyntiau uchel fel arfer?
Mae'r ïonau wedi’u trefnu mewn patrwm rheolaidd iawn
Mae’r grymoedd electrostatig rhwng yr ïonau'n gryf iawn
Mae'r ïonau'n drwm iawn
Mae ïonau metel ac anfetel yn dod at ei gilydd i ffurfio adeiledd enfawr. Beth yw enw'r adeiledd hwn?
Bond ïonig
Dellten ïonig
Moleciwl ïonig
Pa osodiad am foleciwlau cofalent syml sy’n gywir?
Bondiau cryf rhwng atomau mewn moleciwlau, ond grymoedd gwan rhwng moleciwlau
Bondiau gwan rhwng atomau mewn moleciwlau, a grymoedd gwan rhwng moleciwlau
Bondiau gwan rhwng atomau mewn moleciwlau, ond grymoedd cryf rhwng moleciwlau
Pam rydyn ni'n defnyddio diemwnt i orchuddio ebillion driliau metel?
Mae'n ddargludydd trydan da
Mae'n llithrig ac yn rhad
Mae'n galed iawn ac mae ganddo ymdoddbwynt uchel
Beth yw siâp nanotiwb?
Silindr
Sffêr
Dalen fflat
Pa un o’r rhain sy'n disgrifio trefniad gronynnau mewn metel?
Electronau wedi'u pacio'n dynn gydag ïonau dadleoledig
Haenau bob yn ail o ïonau metel ac electronau
Haenau o ïonau metel wedi'u hamgylchynu ag electronau dadleoledig
O beth mae bond metelig wedi'i wneud?
Grymoedd rhwng ïonau metel ac electronau dadleoledig
Parau o atomau metel wedi'u cysylltu â bondiau cryf
Grymoedd rhwng ïonau metel â gwefrau dirgroes
Pam fod y rhan fwyaf o fetelau'n hydwyth?
Am fod yr ïonau metel wedi’u trefnu mewn haenau
Am fod yr ïonau metel wedi’u pacio'n dynn
Am fod y metel yn gallu dargludo trydan