Pa osodiad am yr elfennau yn y tabl cyfnodol modern sy’n gywir?
Metelau yw'r rhan fwyaf o'r elfennau ac maen nhw ar y dde
Metelau yw'r rhan fwyaf o'r elfennau ac maen nhw ar y chwith ac yn y canol
Anfetelau yw'r rhan fwyaf o'r elfennau ac maen nhw ar y dde
Mae tabl cyfnodol modern yn trefnu atomau mewn rhesi a cholofnau. Beth yw enwau'r rhesi a'r colofnau hyn?
Plisg yw'r rhesi a grwpiau yw'r colofnau
Grwpiau yw'r rhesi a chyfnodau yw'r colofnau
Cyfnodau yw'r rhesi a grwpiau yw'r colofnau
Pa osodiad am fetelau ac anfetelau yn y tabl cyfnodol sy’n gywir?
Mae mwy o elfennau anfetel nag elfennau metel
Mae’r metelau ar y chwith i'r llinell igam-ogam, ac mae’r anfetelau ar y dde i'r llinell igam-ogam
Mae’r metelau ar y dde i'r llinell igam-ogam, ac mae’r anfetelau ar y chwith i'r llinell igam-ogam
Pa un o’r priodweddau hyn sydd gan elfen anfetel nodweddiadol?
Mae'n ddargludydd gwres da
Mae ganddo ddwysedd uchel
Mae'n ddargludydd trydan gwael
Adeiledd electronig atom o elfen yw 2,8,8,2. Beth yw ei rif atomig?
18
16
20
Adeiledd electronig atom o elfen yw 2,8,7. Ym mha grŵp mae'r elfen yn y tabl cyfnodol?
2
7
8
Pa atom fydd â phriodweddau cemegol tebyg i'r atom â:
Rhif atomig = 12
Rhif màs = 24
Adeiledd electronig 2,8,2
Yr atom â: rhif atomig = 11 rhif màs = 24 adeiledd electronig 2,8,1
Yr atom â: rhif atomig = 6 rhif màs = 12 adeiledd electronig 2,4
Yr atom â: rhif atomig = 20 rhif màs = 40 adeiledd electronig 2,8,8,2
Pa elfen sydd wedi'i lleoli yn Grŵp 4 a Chyfnod 3?
Galiwm (Ga)
Silicon (Si)
Germaniwm (Ge)
Pa un o’r canlynol sy'n un o briodweddau metel?
Dargludydd gwres gwael
Brau
Gloyw
Beth yw enw’r elfennau sydd wedi'u lleoli rhwng Grwpiau 2 a 3?
Metelau trosiannol
Metelau alcalïaidd
Halogenau