Cyllid busnes test questions

1

Mae Jen wedi penderfynu buddsoddi £2,500 yng nghmwni ei chwaer. Mae ei chwaer wedi sefydlu cwmni prawfddarllen sy’n gwirio traethodau myfyrwyr yn y brifysgol. Mae wedi cytuno i fenthyg yr arian iddi ar yr egwyddor ei bod yn cael 25% o elw’r cwmni am y ddwy flynedd nesaf. Mae’r cwmni’n gwneud £15,000 o elw ym Mlwyddyn 1 a £35,000 ym Mlwyddyn 2. Faint o arian mae Jen yn ei wneud?

2

Mae cwmni’n prynu stoc am £13,123 ac yn ei werthu am £20,000. Faint o arian mae’n ei wneud ar y stoc hon?

3

Derbyniodd caffi £50,000 y llynedd. Mae’r tabl hwn yn dangos gwariant y caffi. A wnaeth y caffi wneud elw neu golled, a faint ohono?

Tabl yn dangos cost busnes yn ôl Manylyn a Swm

4

Mae ffatri’n talu £12.80 am y deunyddiau a’r llafur i wneud ffrog. Hoffai’r archfarchnad brynu’r un ffrog am £20. Mae’r archfarchnad eisiau gwneud elw o 25%. Am faint o arian fydd yn rhaid iddyn nhw werthu’r ffrog er mwyn gwneud 25% o elw?

5

Faint yw’r golled ganrannol os yw cwmni’n prynu stoc am £1,500 ond yn llwyddo i’w gwerthu am £1,200 yn unig?

6

Mae rheolwr cwmni gemwaith yn prynu 10 pâr o freichledi am £3.20 yr un gan y gwneuthurwr. Cyfrifa’r elw canrannol os yw’n eu gwerthu am £4.80 yr un.

7

Mae cwestiynau 7 i 10 ar gyfer yr haen Ganolradd ac Uwch

Mae cwmni’n buddsoddi £500 mewn cwmni arall ac mae’r arian yn arbrisio 5% bob blwyddyn. Beth yw gwerth y buddsoddiad ar ôl tair blynedd?

8

Gwerth yr asedau mewn cwmni yw £23,000 ac mae disgwyl y bydd hwn yn dibrisio 5% bob blwyddyn am ddwy flynedd. Faint mae’r asedau wedi dibrisio?

9

Mae Dylan wedi gwneud cais am fenthyciad o £5,000 sydd ag APR cynrychiadol o 4%. Wrth wneud cais am yr APR personol, mae’n cael cynnig 5.2%. Mae Geraint wedi gwneud cais am fenthyciad o’r un swm ond mae’n cael cynnig yr APR cynrychiadol.

Faint o wahaniaeth sydd rhwng y llog mae’n rhaid i Dylan ei ad-dalu o’i gymharu â Geraint, os yw’r ddau’n ad-dalu’r benthyciad ar ôl blwyddyn?

10

Mae cyfrif cynilo wedi dyfynnu cyfradd llog o 10% sy’n talu llog bob chwarter. Beth yw cyfradd flynyddol gyfatebol (AER) y cyfrif hwn?