Yn yr Oesoedd Canol, beth oedd ceudy?
Baddondai cyhoeddus
Toiledau cyhoeddus
Ysbytai mewn mynachlogydd
Yn yr Oesoedd Canol, beth oedd tŷ’r gwahangleifion?
Rhan o fynachlog oedd yn debyg i ystafell ymolchi
Enw arall ar dŷ bach
Ysbyty i bobl â’r gwahanglwyf
Pam fod nifer o haneswyr yn credu bod Tân Mawr Llundain wedi helpu i wella iechyd y cyhoedd yn y ddinas?
Oherwydd ei fod wedi lladd germau’r pla
Oherwydd ei fod wedi lladd y llygod mawr oedd yn cario’r pla
Oherwydd bod rhaid ailadeiladu Llundain gan ddefnyddio briciau a cherrig
Pa dref ddisgrifiodd Syr Henry de le Beche yn ei adroddiad ar iechyd cyhoeddus yn 1845?
Merthyr Tudful
Manceinion
Llundain
Pwy ysgrifennodd Report on the Sanitary Conditions of the Labouring Population yn 1842?
Dr John Snow
Joseph Bazalgette
Edwin Chadwick
Pa ddeddf yn 1875 orfododd gynghorau i ddarparu dŵr glân, draenio effeithiol a systemau carthffosiaeth ym mhob ardal?
Deddf Anheddau’r Gweithwyr
Deddf Iechyd y Cyhoedd
Deddf Yswiriant Cenedlaethol
Pwy gyhoeddodd adroddiad yn 1889 a ddangosodd bod un rhan o dair o boblogaeth Llundain yn byw mewn tlodi?
Seebohm Rowntree
Charles Booth
William Beveridge
Ym mha flwyddyn y cyflwynodd y llywodraeth Ryddfrydol ginio ysgol am ddim i blant?
1906
1907
1908
Sawl tŷ cyngor newydd a adeiladwyd gan y llywodraeth Lafur rhwng 1945 a 1951?
200,000
500,000
1 miliwn
Yn 1952, beth oedd yn gyfrifol am farwolaeth 12,000 o drigolion Llundain?
Mwrllwch
Allyriadau o gerbydau
Llygredd o ffatri