Beth yw ystyr y geiriau ar bob tu?
ar bob tu
Ar bob cartref
Ar bob person
Ar bob ochr
Beth yw mesur y gerdd?
Penrhydd gynganeddol
Soned
Mydr ac odl
Pwy yw’r rhai mewn grym?
rhai mewn grym
Y Llywodraeth
Y bobl ar y teledu
Y bobl gyffredin
Enghraifft o beth yw’r geiriau diffoddwch, agorwch a cofleidiwch?
diffoddwch
agorwch
cofleidiwch
Ansoddeiriau
Geiriau cyfansawdd
Berfau gorchmynnol
Pa fath o naws a welir yn rhan gyntaf y gerdd?
Cariadus
Tywyll
Gobeithiol
Ble mae trobwynt y gerdd?
a phob un cornel stryd yn gysgod du
diffoddwch y teledu am y tro
tu allan ar y stryd fel cyllell wen
Beth yw patrwm odli’r gerdd?
a b b a a b b a c ch c ch c ch
a b a b c ch c ch d dd d dd e e
a b a b c ch c ch d dd d dd e f
Pa themâu sydd i’w gweld yn y gerdd?
Ofn, cariad a chasineb
Ofn, herio’r drefn a therfysgaeth
Ofn, terfysgaeth a chariad
Pa nodwedd arddull sydd yn y geiriau tu allan ar y stryd fel cyllell wen?
Cyffelybiaeth
Cwestiwn rhethregol
Trosiad
Beth yw dymuniad y bardd?
Ein bod yn ymladd dros ein gwlad
Ein bod yn agor ein llygaid ac yn cwestiynu’r hyn a welwn ar y teledu
Ein bod ni'n ofni'n gilydd