Pa un o’r ffurfiau yma sydd ddim yn un o’r ffurfiau ysgrifennu disgrifiadol?
Araith
Portread
Dyddiadur
Mewn disgrifiad rhaid cyfeirio at y synhwyrau. Pa un o’r brawddegau hyn sydd yn enghraifft o hynny?
Heb os nac oni bai mae angen i bobl ifanc yfed llai o alcohol
Yn y pellter gallaf weld amlinelliad y dyn dieithr
Pam fod rhaid i mi eistedd yn yr ystafell hon?
Pa un o’r brawddegau canlynol sydd yn cynnwys enghraifft o bersonoli?
Pêl boeth yw’r haul
Mae’r haul yn felyn llachar
Mae’r haul yn dringo’n uwch ac yn uwch yn yr awyr
Pa un o’r brawddegau isod sydd yn cynnwys enghraifft o gymhariaeth?
Mae ganddo wallt blêr fel tas wair
Mae ganddi wallt hir cyrliog
Mae ei wallt yn sefyll yn stond ar ei ben
Pa un o’r enghreifftiau isod sydd yn cynnwys enghraifft o drosiad?
Cawr o ddyn yw Jamie Roberts
Mae’r chwaraewr rygbi yn gadarn a chryf
Clywaf y dorf yn gweiddi’n wyllt
Pa un o’r berfau isod sydd yn amser y gorffennol?
Cerddaf
Cerddai
Cerddaist
Beth sy’n bwysig wrth fynd ati i ysgrifennu darn disgrifiadol?
Ysgrifennu cymaint â phosibl
Treulio amser yn cynllunio’r darn ysgrifennu
Cynnwys geiriau mawr a chymhleth
Pwrpas pa ffurf yw diddanu’r darllenydd drwy adolygu neu ddisgrifio profiad mewn gwlad benodol?
Teithlyfr
Ymson
Pwrpas pa nodwedd yw i nodi llif meddwl yr unigolyn yn y foment honno?
Pwrpas pa nodwedd yw nodi cofnod o ddigwyddiadau sydd wedi digwydd yn y gorffennol?