Swyddogaeth yr aren mewn homeostasis test questions

1

Beth yw enw’r rhydweli sy’n cludo gwaed i’r aren?

2

Beth sy’n cael ei hidlo allan o’r gwaed i ffurfio troeth?

3

Drwy ba diwb mae troeth yn gadael y corff?

4

Mae miliwn o neffronau ym mhob aren. Ble yn union yn yr aren mae’r neffronau?

5

Pa un o’r sylweddau hyn sy’n cael ei hidlo allan o’r gwaed yn ystod uwch-hidlo?

6

Pa ran o’r corff sy’n rhyddhau hormon gwrth-ddiwretig (ADH)?

7

Os nad oes digon o ddŵr mewn plasma gwaed, beth sy’n digwydd i secretiad ADH i lif y gwaed?

8

Does dim glwcos mewn troeth normal. Un o symptomau pa glefyd yw canfod glwcos yn y troeth?

9

Mewn peiriant dialysis, pam mae hi’n bwysig bod y gwaed a’r hylif dialysis yn symud i’r ddau gyfeiriad dirgroes ar hyd y bilen rannol athraidd?

10

Os yw claf yn cael trawsblaniad aren, pa fath o gyffuriau mae angen iddo eu cymryd am weddill ei fywyd?