Mewn ymchwil, beth yw poblogaeth?
Y grŵp o bobl y mae’r ymchwil yn berthnasol iddynt
Is-set o’r grŵp o bobl y mae’r ymchwil yn berthnasol iddynt
Pobl sy’n byw mewn gwlad
Beth yw holiadur peilot?
Yr holiadur cyntaf o’i fath
Holiadur drafft
Holiadur ar gyfer peilotiaid
Beth yw cwestiynau agored?
Cwestiynau sy’n gofyn am farn
Cwestiynau lle nad yw’r ymatebion wedi cael eu dyfalu neu eu darparu yn barod
Cwestiynau sy’n cael eu galw yn gwestiynau ‘dewis gorfodol’
Beth yw manteision cwestiynau caeedig?
Mae cwestiynau caeedig yn haws i’w coladu ar ffurf graffiau na chwestiynau agored
Maent yn arwain at atebion manwl
Maent yn gallu ymdopi’n dda ag ymatebion annisgwyl
Mewn pa fath o gyfweliad y mae angen gofyn cwestiynau mewn trefn benodol?
Cyfweliad anstrwythuredig
Cyfweliad lled-strwythuredig
Cyfweliad strwythuredig
Beth yw cyfweliad anstrwythuredig?
Cyfweliad heb restr benodol o gwestiynau
Cyfweliad sydd â rhestr o gwestiynau penagored
Cyfweliad sydd â rhestr o gwestiynau caeedig
Mae trefn y cyfweliad yn cynnwys tair rhan. Beth yw’r tair?
Cyflwyniad, trafodaeth, casgliad
Cyflwyniad, trafodaeth, casgliad Rhan agoriadol, y prif gorff a diweddglo
Rhan agoriadol, rhestr o gwestiynau yn barod i’w gofyn a diweddglo
Yn ôl Steinar Kvale, beth yw cwestiynau uniongyrchol?
Cwestiynau sy’n gofyn am wybodaeth ffeithiol
Cwestiynau sydd ag ateb byr a phendant, ee do neu naddo
Beth yw ystyr trawsgrifio?
Darllen gwybodaeth ysgrifenedig yn uchel
Teipio gwybodaeth
Rhoi geiriau llafar mewn ffurf ysgrifenedig
Beth yw ystyr tuedd mewn cyfweliad?
Sefyllfa lle mae’r cyfwelydd ei hun wedi dylanwadu ar ymateb y cyfwelai
Tuedd cyfwelai i ffafrio cymryd rhan mewn cyfweliadau
Tuedd cyfwelydd i ffafrio cynnal cyfweliadau