Beth yw osgled y don sydd wedi'i dangos?
15 cm
30 cm
20 cm
Os yw buanedd ton ddŵr yn lleihau i hanner ei werth gwreiddiol mewn dŵr mwy bas, beth fydd yn digwydd i'w thonfedd?
Bydd yn dyblu
Bydd yn haneru
Dim newid
Gan ba un o'r mathau hyn o belydriad electromagnetig y mae’r amledd uchaf?
Tonnau radio
Golau gweladwy
Pelydriad gama
Beth yw uned amledd?
Metr
Eiliad
Hertz
Mae ton yn teithio â buanedd o 5 m/s. Mae ei hamledd yn 10 Hz. Beth yw tonfedd y don?
0.5 cm
0.5 m
50 m
Beth yw tonfedd y don sydd wedi'i dangos?
40 cm
50 cm
Beth mae lloeren geosefydlog yn ei wneud?
Mae hi'n aros uwchben y Ddaear yn yr un lle
Mae hi'n aros uwchben yr un lle ar arwyneb y Ddaear
Dydy hi ddim yn symud
Pa un o’r canlynol sy’n don arhydol?
Ton sain
Ton golau
Ton radio
Mae ton ddŵr yn teithio 6 m mewn 2 s. Beth yw buanedd y don?
12 m/s
0.33 m/s
3 m/s
Pa fath o belydriad electromagnetig sy'n teithio gyflymaf?
Gama
Radio
Mae'r ddau'n teithio ar yr un buanedd