Beth yw cyrion gwledig-trefol?
Yr ardal rhwng canol busnes y dref a’r maestrefi
Y ffin neu’r ardal rhwng yr ardal drefol a’r ardal wledig
Canol ardal drefol
Beth yw ystyr anghysbell?
Yn bell ac ar wahân i leoedd eraill a gwasanaethau allweddol
Yn agos at leoedd eraill ac yn ymyl gwasanaethau allweddol
Ffordd o reoli pa mor fawr neu fach yw lle
Pa fath o ardal gymunedol wledig sydd ar lan y môr ac sy’n cynnwys pensiynwyr yn bennaf?
Gwyrdd anghysbell
Newid cyflym
Ymddeol i’r arfordir
Beth yw ystyr cylch dylanwad?
Tynfa neu bwysigrwydd ardal neu gyfleusterau i le neu unigolyn arall
Maint ardal
Nifer y cyfleusterau sydd mewn ardal
Pa un o’r rhain sy’n nodweddiadol o ardal wledig ddifreintiedig?
Cysylltiad rhyngrwyd cryf
Cysylltiad rhyngrwyd gwan
Dim cysylltiad rhyngrwyd
Pam y mae pobl sy’n byw mewn ardaloedd gwledig difreintiedig yn fwy agored i niwed?
Does ganddyn nhw ddim cysylltiad rhyngrwyd
Mae ganddyn nhw lai o leoedd i fynd iddyn nhw i gael adloniant
Does dim llawer o wasanaethau iechyd ar gael iddyn nhw
Pam y mae banciau a swyddfeydd post mewn ardaloedd gwledig yn aml yn uno gwasanaethau neu’n cau?
Does dim digon o weithwyr ar gael iddyn nhw allu aros ar agor gan fod pobl yn symud i ardaloedd trefol
Mae mwy a mwy o bobl yn symud i ardaloedd gwledig o ardaloedd trefol fel rhan o’r broses wrthdrefoli
Mae mwy o bobl mewn ardaloedd gwledig yn defnyddio gwasanaethau ar-lein yn hytrach nag ymweld â busnesau gwledig
Beth yw ystyr y term cymuned gynaliadwy?
Lle sy’n newid yn gyflym gan fod llawer o bobl yn symud yno
Lle sy’n gallu cefnogi anghenion pawb sy’n byw yno, gan ddarparu ansawdd bywyd da i ni heddiw ac i genedlaethau’r dyfodol
Lle sydd â llai o bobl ac sydd â phoblogaeth wasgaredig
Sut allwn ni asesu pa mor gynaliadwy yw ardal drefol neu wledig?
Drwy edrych faint o bobl sy’n byw yno
Drwy groesgyfeirio ag Olwyn Egan
Drwy edrych ar y rhyngrwyd
Sut allwn ni wneud trafnidiaeth mewn ardaloedd gwledig yn fwy cynaliadwy?
Annog rhagor o bobl i brynu ceir
Darparu rhagor o wasanaethau cludiant cyhoeddus sy’n defnyddio trydan yn hytrach na diesel neu betrol
Adeiladu rhagor o ffyrdd er mwyn lleihau tagfeydd traffig