Yn Macbeth sut mae Shakespeare yn cyflwyno deunydd sy’n canmol Iago I?
Mae’n sôn llawer am frenhiniaeth yn y ddrama
Gwnaeth i’r prif gymeriadau siarad yn ganmoliaethus â’r brenin yn ystod y perfformiad
Mae’r ddrama wedi ei gosod yn yr Alban ac yn trafod gwrachyddiaeth. Roedd Iago wedi ysgrifennu llyfr am y pwnc
Beth mae’r defnydd o’r lliw coch yn ei gynrychioli wrth ddylunio drama dreisgar?
Gwaed ac felly anafiadau a marwolaeth
Tuedd wleidyddol
Awdurdod gwrywaidd
Pa wahaniaeth mae dewis gwisg cyfnod yn ei wneud i actor?
Gall wneud i’r sioe edrych yn well
Gall effeithio ar hwyl, osgo a symudiadau’r actor
Gall wneud i’r cynhyrchiad edrych fel pe bai wedi dyddio
Pa ystyriaethau allai actor eu rhoi i iaith mewn darn cyfnod?
Defnyddio slang neu acen benodol i nodi dosbarth neu darddiad
Ymchwilio i ystyr y geiriau
Siarad yn gyflymach gan fod y ddrama’n hirach nag arfer
Beth ddylai’r cyfarwyddwr ei wneud wrth chwilio am foment allweddol i ddeall cyd-destun drama?
Defnyddio techneg megis saib dramatig i amlygu’r foment yn y perfformiad
Tanlinellu moment o’r fath yn y sgript
Cyfarwyddo’r actorion i gyflymu
Pa themâu sy’n amlwg yn y ddrama Mwnci ar Dân?
Rhamant a gwirionedd
Dirgelwch ac angerdd
Ymbellhau teuluol a diffyg cyfrifoldeb rhieni
Pa ystyriaeth ynglŷn â’r gwrachod allai fod gan gyfarwyddwr Macbeth wrth gynllunio cynhyrchiad mewn lleoliad cyfoes?
Peidio â gwneud i’r gynulleidfa chwerthin oherwydd dydy’r rhan fwyaf o bobl heddiw ddim yn credu mewn gwrachod
Peidio â chodi braw ar y gynulleidfa
Atal pobl rhag cael eu brawychu a dechrau credu mewn gwrachod
Pa aelod o’r tîm cynhyrchu sy’n gyfrifol am ymchwilio i gyd-destun y ddrama i ddechrau?
Dylunydd y set
Y cyfarwyddwr
Meistr/meistres y gwisgoedd
Beth ydy’r fantais o gael gwisgoedd sy’n awgrymu dau gyfnod, ee modern a chyfnod Elisabeth I?
Mae’n gadael i ti dynnu ar ddau gyd-destun yr un pryd ac yn cyfoethogi’r ddrama
Mae’n arbed arian drwy ddefnyddio gwisgoedd o fwy nag un cwpwrdd
Mae’n gwneud y cyd-destun yn llai amlwg
Ymhle mae Mwnci ar Dân wedi ei gosod?
Ar stad dlawd yn yr Alban
Mewn sŵ drefol
Mewn stad dlawd o dai yng Nghymru