Pa ran o’r gwaed sy’n gyfrifol am gludo ocsigen o gwmpas y corff?
Celloedd gwyn y gwaed
Plasma
Celloedd coch y gwaed
Pa un o’r rhain sy’n un o addasiadau celloedd coch y gwaed i gludo ocsigen?
Siâp deugeugrwm i roi arwynebedd arwyneb mawr
Cnewyllyn mawr i ddal llawer o ocsigen
Cynnwys cloroffyl i gasglu’r ocsigen
Pa ddau gam mae ffagocyt yn eu cymryd i ddinistrio microb estron?
Amlyncu yna treulio
Treulio yna amlyncu
Glynu ac adleoli
Beth yw swyddogaeth platennau yn y gwaed?
Amlyncu microbau a’u treulio nhw
Ceulo’r gwaed
Cludo wrea
Pa bibell sy’n dychwelyd gwaed o’r corff i’r galon?
Gwythïen ysgyfeiniol
Aorta
Fena cafa
Beth yw swyddogaeth falfiau yn y system cylchrediad?
Gadael gwaed ocsigenedig drwodd yn unig
Gadael gwaed dadocsigenedig drwodd yn unig
Atal gwaed rhag llifo am yn ôl
Pa siambr yn y galon sy’n cyfangu â’r pwysedd uchaf?
Atriwm chwith
Fentrigl chwith
Fentrigl de
Muriau pa fath o bibell waed sydd â thrwch o un gell yn unig?
Rhydwelïau
Gwythiennau
Capilarïau
Pa sylwedd sy’n gallu cronni yn y rhydwelïau coronaidd gan arwain at glefyd y galon?
Halen
Siwgr
Colesterol
Pa driniaeth i glefyd y galon sy’n cynnwys mewnosod balŵn bach mewn pibell waed?
Statinau
Angioplasti
Deiet