Pryd sylweddolodd cadfridogion blaenllaw yr Almaen eu bod wedi colli’r Rhyfel Byd Cyntaf?
Mehefin 1918
Medi 1918
Tachwedd 1918
Beth oedd y nifer fwyaf o filwyr y caniateid i fyddin yr Almaen eu cael yn ôl Cytundeb Versailles?
10,000
100,000
200,000
Beth yw Gweriniaeth?
Ffurf wan o lywodraeth
Gwlad sydd heb ei rheoli gan frenin neu frenhines
Gwlad a chanddi arlywydd
Ble y cyfarfu llywodraeth newydd am y tro cyntaf yn Chwefror 1919?
Frankfurt
Munich
Weimar
Pam roedd Erthygl 48 yn wendid i’r llywodraeth newydd?
Gwnaeth hi’n haws ffurfio pleidiau bychain
Roedd yn caniatáu i'r Arlywydd anwybyddu'r Reichstag a chyflwyno deddfau’n uniongyrchol
Gellid gwneud penderfyniadau’n gyflym mewn argyfwng
Ble roedd y Natsïaid ar y sbectrwm gwleidyddol?
Adain chwith
Canol
Adain dde
Faint o Spartaciaid a wrthryfelodd yn Berlin yn 1919?
400
50,000
600,000
Beth yw’r term am gynnydd mawr a chyflym iawn yn lefel prisiau, ynghyd â chwymp yng ngwerth arian?
Iawndal
Gorchwyddiant
Dirwasgiad
Pa bryd y rhoddodd Hitler gynnig ar Putsch Munich?
1922
1923
1924
Ble ysgrifennodd Hitler Mein Kampf?
Yn Berlin
Yn y carchar
Yn yr ysgol