Defnyddio egni test questions

1

Mewn beth mae dargludiad yn digwydd gan fwyaf?

2

Mae gan floc pren y dimensiynau canlynol:

Hyd: 15 cm

Uchder: 10 cm

Lled: 10 cm

Mae ei fàs yn 200 g

Beth yw ei ddwysedd?

3

Nid yw un o’r dulliau hyn yn ymwneud â gronynnau. Pa un?

4

Pa arwynebau yw'r gorau am amsugno pelydriad isgoch?

5

Pa arwynebau yw'r gorau am allyrru pelydriad isgoch?

6

Pa ddull trosglwyddo gwres sy'n egluro pam mae balwnau aer poeth yn codi?

7

Pam mae ynysiad waliau ceudod yn cynnwys pocedi o aer wedi'i ddal?

8

Sut mae gwres yn mynd drwy gwarel o wydr sengl?

9

Mae’r diagram isod yn dangos llifyn mewn tiwb o ddŵr. Mae'r dŵr yn cael ei wresogi yn y gornel dde isaf. I ba gyfeiriad fydd y llifyn yn gwasgaru?

Diagram yn dangos tiwb gwydr petryal llawn dŵr. Mae ffynhonnell gwres o dan gornel dde isaf y tiwb. Mae llifyn porffor yn y dŵr yng nghornel dde isaf y tiwb.

10

Mae ffenestri gwydr dwbl yn costio £4,000 i'w gosod. Maent yn arbed £200 y flwyddyn mewn costau tanwydd. Beth yw’r amser talu'n ôl?